Fel rhan o’ch cwrs, byddwch yn astudio ystod o bynciau megis anatomi a ffiisioleg, hyfforddiant a ffitrwydd, asesu risg, profi ffitrwydd ar gyfer chwaraeon ac ymarfer, hyfforddi chwaraeon, datblygiad mewn chwaraeon a chwaraeon ymarferol tîm. Ymhlith y meysydd arbenigol bydd: maeth chwaraeon, rheolau/rheoliadau a dyfarnu, ymarfer, iechyd a ffordd o fyw, seicoleg perfformiad mewn chwaraeon a hyfforddi gweithgareddau corfforol ac ymarfer.
I gael lle ar y cwrs hwn mae angen 5 TGAU A*- C, a rhaid i'r rhain gynnwys Mathemateg a Saesneg/Cymraeg, neu gyfwerth, megis Lefel 2 Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW) mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif, neu Ddiploma BTEC Lefel 2 mewn Chwaraeon gyda gradd teilyngdod.
Er mwyn cyflawni Lefel 3 mewn Chwaraeon, rhaid i chi gwblhau aseiniadau mewnol ymhob uned. Caiff eich sgiliau ymarferol eu hasesu, a defnyddir dulliau asesu megis holi ar lafar, gwaith aseiniad a chwestiynau ysgrifenedig. Asesir pob uned a’u graddio a dyfernir gradd gyffredinol ar gyfer y cymhwyster.
Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, gallech fod yn gymwys i fynd ymlaen i gwrs Lefel 2 megis y Diploma mewn Cymorth Systemau neu Ddiploma Cyntaf L2 BTEC mewn Technoleg a Gwybodaeth a Chreadigol.