Mae’r Diploma mewn Cyfrifeg yn cynnwys y canlynol: Ymwybyddiaeth o Fusnes, sy’n ystyried amgylchedd busnes, rheolaeth, moeseg a chynaliadwyedd; Cyfrifeg Ariannol: Paratoi Datganiadau Ariannol, delio ag agweddau o baratoi cyfrifon ariannol ar gyfer unig fasnachwyr a phartneriaethau; Technegau Cyfrifyddu Rheoli sy’n ystyried dulliau safonol o baratoi a chyflwyno data cyfrifyddu rheoli; a phrosesau Treth ar gyfer busnes yn ystyried ffurflenni TAW a chyflogres PAYE.
Byddwch angen Tystysgrif Lefel 2 mewn Cyfrifeg. Neu, bydd angen i ymgeiswyr heb Lefel 2 ddarparu tystiolaeth o ddealltwriaeth drylwyr o egwyddorion cadw cyfrifon drwy astudiaeth flaenorol neu brofiad gwaith a 5 pwnc TGAU gradd A-C yn cynnwys iaith Saesneg/Cymraeg a bydd angen mynychu cyfweliad gyda thiwtor AAT.
Cewch eich gwahodd i fynychu cyfweliad a chewch eich asesu mewn llythrennedd a rhifedd er mwyn sefydlu a oes angen unrhyw gymorth arnoch chi. Yng Ngholeg y Cymoedd, byddem yn eich annog i wneud eich gorau glas yn eich asesiadau. Po uchaf ydy’ch graddau, gwell fydd eich opsiynau a gallai olygu eich bod yn cael mynediad i gwrs uwch ei lefel.
Defnyddir Asesiadau a luniwyd gan AAT ar Gyfrifiadur i asesu pob maes dysgu’r cymhwyster hwn.
Bydd cwblhau Diploma Lefel 3 mewn Cyfrifeg yn llwyddiannus yn caniatáu i chi symud ymlaen i gwrs Diploma Lefel 4 mewn Cyfrifeg Proffesiynol.