Mae'r cwrs hwn ar gael mewn lleoliadau eraill:

Lefel 1 mewn Coginio Proffesiynol

Rhagarweiniad ydy’r cwrs hwn i’r sgiliau sydd eu hangen i weithio fel cogydd proffesiynol yn y diwydiant, sylfaen i yrfa ym mhroffesiwn cyffrous Lletygarwch gyda’i ffocws ar y cwsmer. .


Byddwch yn elwa o amrywiaeth o weithgareddau a luniwyd i wireddu’ch potensial a’ch galluogi i ddefnyddio’ch sgiliau a’ch gwybodaeth i symud ymlaen i gymhwyster Lefel 2 mewn Lletygarwch ac Arlwyo. Yn y rhaglen hon byddwch hefyd yn astudio Sgiliau Hanfodol Cymru.

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Byddwch yn astudio unedau sy'n adlewyrchu anghenion y diwydiant arlwyo, gan eich paratoi ymhellach ar gyfer gyrfa yn y sector hwn. Byddwch yn astudio; Prif agweddau ar letygarwch, Safonau Cyflogaeth, Iechyd a Diogelwch, Gwasanaeth Cwsmeriaid a Sgiliau Hanfodol neu TGAU.


Bydd ein cyrsiau Lletygarch ac Arlwyo yn rhoi’r sgiliau sydd eu hangen arnoch chi i lwyddo yn y diwydiant. Cewch brofiad uniongyrchol ac ymarferol o weithio yn ein ceginau proffesiynol a’n bwytai. Mae ein bwytai hyfforddi ar agor i’r cyhoedd a bydd hyn yn gyfle gwych i chi brofi gweithio yn y diwydiant. Pan ddaw hi’n amser i chi chwilio am waith cyflogedig, byddwch eisoes wedi cael profiad o weithio mewn amgylchedd proffesiynol.

Beth fydda i'n ei ddysgu?

3 TGAU gradd E neu uwch (gan gynnwys Mathemateg a Saesneg neu Cymraeg Mamiaith), neu gymwysterau cyfwerth ar lefel Mynediad. Mae asesu sgiliau ymarferol yn rhan o broses gyfweld ar gyfer y cwrs hwn.

Asesiad

Cewch eich asesu drwy ystod o ddulliau sy’n cynnwys asesu parhaus, arsylwi’ch gwaith ymarferol, cwblhau portffolio, tystiolaeth ddamcaniaethol a gwaith aseiniad.

Dilyniant Gyrfa

Wrth i chi ddatblygu, gallwn eich arwain i gyrsiau uwch eu lefel neu’ch helpu os ydych yn dymuno symud yn syth i swydd. Pa lwybr bynnag y byddwch yn ei ddewis.

Nodiadau Pellach

Mae’n ofynnol i chi brynu Cyfarpar a Chit ar gyfer y cwrs hwn. Trafodwch hyn adeg y cyfweliad gydag un o’r tiwtoriaid ar ôl i chi wneud cais.

Mae asesiad ymarferol fel rhan o’r broses gyfweld ar gyfer y cwrs hwn

Ymgeisiwch Nawr Gofyn am alwad yn ôl
Manylion y Cwrs
Lefel:Lefel 1
Modd:Llawn Amser
Dyddiad:01/09/2026
Lleoliad:Aberdâr
Cod y Cwrs:7CF101AA
Ffioedd
Ffi Cofrestru Llawn Amser: £15

Sylwch: Mae ffioedd yn daladwy am bob blwyddyn astudio.

Beth mae Dysgwyr yn ei Ddweud
Select Location

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

01685 887500

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

01443 662800

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

01443 663202

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

01443 816888
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Porth Dysgwyr a Staff Ap Coleg y Cymoedd Newyddion ADY Gyrfaoedd