Byddwch yn astudio unedau sy'n adlewyrchu anghenion y diwydiant arlwyo, gan eich paratoi ymhellach ar gyfer gyrfa yn y sector hwn. Byddwch yn astudio; Prif agweddau ar letygarwch, Safonau Cyflogaeth, Iechyd a Diogelwch, Gwasanaeth Cwsmeriaid a Sgiliau Hanfodol neu TGAU.
Bydd ein cyrsiau Lletygarch ac Arlwyo yn rhoi’r sgiliau sydd eu hangen arnoch chi i lwyddo yn y diwydiant. Cewch brofiad uniongyrchol ac ymarferol o weithio yn ein ceginau proffesiynol a’n bwytai. Mae ein bwytai hyfforddi ar agor i’r cyhoedd a bydd hyn yn gyfle gwych i chi brofi gweithio yn y diwydiant. Pan ddaw hi’n amser i chi chwilio am waith cyflogedig, byddwch eisoes wedi cael profiad o weithio mewn amgylchedd proffesiynol.
Bydd angen 3 TGAU graddau A*- E yn cynnwys Iaith Saesneg/Cymraeg a Mathemateg/Rhifedd neu gymhwyster cwrs sylfaen yn cynnwys Sgiliau Hanfodol Lefel 3 Mynediad, yn ogystal â geirda gan diwtor blaenorol. Efallai bydd gofyn i chi gwblhau tasg sgiliau ymarferol.
Rydyn ni'n chwilio am ddysgwyr â diddordeb brwd yn y diwydiant Lletygarwch ac Arlwyo. Cewch eich gwahodd i gymryd rhan mewn gweithgareddau canllawiau cyn cychwyn y cwrs a fydd yn cynnwys cyflwyniad i'r cwrs. Mae angen iwnifform a chyfarpar perthnasol ar gyfer y cwrs hwn; darperir rhestr lawn. Bydd gofyn i chi gael eich asesu o ran llythrennedd a rhifedd er mwyn sefydlu a oes angen unrhyw gymorth arnoch chi.
Cewch eich asesu drwy ystod o ddulliau sy’n cynnwys asesu parhaus, arsylwi’ch gwaith ymarferol, cwblhau portffolio, tystiolaeth ddamcaniaethol a gwaith aseiniad.
Wrth i chi ddatblygu, gallwn eich arwain i gyrsiau uwch eu lefel neu’ch helpu os ydych yn dymuno symud yn syth i swydd. Pa lwybr bynnag y byddwch yn ei ddewis.
Purchase of Equipment and Kit is required for this course (Compulsory Cost - Chef Uniform - £55.06, Restaurant Materials - £26.15, Knife Set - £40) (Suggested Optional - Text books, Hand Blender, Mixer). Please discuss this at interview stage with a tutor after you have applied.