BA (Hons) Costume Construction

Cyflenwir cwrs Creu Gwisgoedd yng Ngholeg y Cymoedd mewn partneriaeth â Phrifysgol De Cymru ac addysgir y cwrs ar Gampws Nantgarw. Er y bydd dysgwyr yn astudio yn Nantgarw, gallen nhw ddewis byw mewn llety’r Brifysgol a hefyd ddefnyddio’r cyfleusterau a’r adnoddau sydd ar gael i fyfyrwyr y brifysgol.


Cwrs 2-3 blynedd ydy hwn sy’n eich cyflwyno i greu gwisgoedd ym maes ffilm a theatr. Mae cysylltiadau rhagorol â diwydiant gyda ni sy’n darparu cyfleoedd i weithio mewn tîm cynhyrchu yn creu gwisgoedd. Bydd y cwrs yn eich paratoi drwy roi’r sgiliau angenrheidiol i chi ddatblygu'n arbenigwr yn y maes.

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd angen meddu ar ddawn greadigol a gallu i ddefnyddio’ch gwybodaeth am ddylunio a’ch sgiliau creadigol i ddehongli syniadau. Mae astudio gwisgoedd o fewn eu cyd-destun hanesyddol neu gyfoes yn rhan annatod o’r cwrs a bydd ymchwil i wisgoedd cyfnod yn darparu cyfeiriad a chymorth drwy’r broses ddehongli.


Mae dysgu sgiliau megis torri patrwm, creu gwisg ac addurno gwisg yn rhoi’r wybodaeth hanfodol sydd ei hangen arnoch chi i gychwyn y broses o greu gwisgoedd. Cyflwynir meysydd arbenigol megis creu staesiau a theilwriaeth, gwaith glain a brodwaith drwy’r cwrs gan ymestyn a chyfoethogi’ch arbenigedd. Bydd y cwrs yn cynnig cipolwg i chi ar fyd proffesiynol ffilm a theatr gydag ymweliadau allanol i’r diwydiant a phrofiad gwaith ar draws ystod eang o gwmnïau ffilm /theatr ledled y wlad. Bydd hyn yn rhoi profiad i chi o gymhwyso’ch sgiliau a’ch gwybodaeth a gweithio o fewn tîm a gweithio’n annibynnol mewn amgylchedd proffesiynol. Am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn, proffiliau staff, orielau myfyrwyr ayb. ewch i: http://www.cymoedd.ac.uk/costume-construction/costume-construction.aspx

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd angen 48 o bwyntiau UCAS ar fyfyrwyr, mae hyn yn cyfateb i · 2 Safon Uwch (Gradd D neu'n uwch) neu · Cymhwyster BTEC Lefel 3 perthnasol gyda theilyngdod/pas ar gyfer Diploma Lefel 3 neu Pas/Pas/Pas ar gyfer Diploma Estynedig Lefel 3 neu · Profiad diwydiannol perthnasol. Fodd bynnag, yn achos ymgeiswyr hyn, bydd disgwyl i chi arddangos gallu i gwblhau’r cwrs yn llwyddiannus ac fel arfer yn meddu ar brofiad proffesiynol a/neu gymwysterau amgen. . Hefyd, efallai bydd gofyn i chi fynychu cyfweliad, cymryd rhan mewn gweithdy neu gyflwyno portffolio o waith fel rhan o’r broses ddethol. Dylid gwneud cais ar gyfer y cwrs BA (Anrh) drwy safle UCAS gan ddefnyddio’r cod W453.


Caiff y rhai heb gymhwyster o’r fath eu hystyried yn unigol ac efallai caiff ystod eang o brofiad blaenorol ei ystyried. Bydd pob ymgeisydd yn mynychu cyfweliad yn seiliedig ar bortffolio.

Asesiad

Cewch eich asesu drwy gwblhau aseiniad ar sail gwaith cwrs a thrwy arsylwi ar eich gwaith ymarferol.

Dilyniant Gyrfa

Ar ôl cwblhau’r cwrs Gradd Sylfaen, mae cyfleoedd cyflogaeth ar gael i bobl yn gweithio ar eu liwt eu hun neu fel cyflogai o fewn cwmnïau ffilm a theatr. Bydd trydedd blwyddyn opsiynol ar gyfer gradd anrhydedd yn eich galluogi i ddatblygu arbenigedd unigol a diddordebau personol drwy wneud prosiect mawr unigol. Bydd y drydedd blwyddyn hefyd yn datblygu’ch gwybodaeth broffesiynol ymhellach ac yn darparu cyfleoedd i chi ehangu’ch portffolio o waith. .

Nodiadau Pellach

Dim ceisiadau gan fyfyrwyr o wledydd tramor nad ydynt yn hanu o'r UE

HE Fees are subject to change

Ymgeisiwch Nawr Gofyn am alwad yn ôl
Manylion y Cwrs
Lefel:Level 6
Modd:Full Time
Dyddiad:02/09/2024
Lleoliad:Nantgarw
Cod y Cwrs:9AF609NB
Ffioedd
HE Tuition Fee Year 1: £9000
Studio Fee: £100

Sylwch: Mae ffioedd yn daladwy am bob blwyddyn astudio.

Beth mae Dysgwyr yn ei Ddweud
Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau