Mae'r cwrs hwn ar gael mewn lleoliadau eraill:

Llwybrau 2 Archwilio Annibyniaeth

Mae'r cwrs Sgiliau ar gyfer Bywyd a Gwaith yn rhaglen heriol a chyffrous sy'n ceisio eich cefnogi chi i ddatblygu eich sgiliau cymdeithasol, eich hunan-barch a'ch hyder. Bydd y cwrs Llwybr 2 Llwybr Carlam hwn yn datblygu eich sgiliau Saesneg, Mathemateg a TGCh ac yn cynnig ystod o bynciau a fydd yn eich paratoi ar gyfer sgiliau a phrofiad cysylltiedig â gwaith yn y coleg a thu hwnt.


Byddwch yn ymgymryd â phrosiectau arbennig sy'n gysylltiedig â'ch dysgu drwy gydol y flwyddyn, er enghraifft trefnu digwyddiad, cynllunio teithiau a gwahodd gwesteion i gefnogi'ch dysgu. Cwrs blwyddyn yw hwn a gyflwynir dros 3 diwrnod yr wythnos.

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Mae'r cwrs yn dilyn y cwricwlwm ILS; gyda’r pedair colofn ddysgu yn graidd i’r rhaglen:


• Iechyd a Lles • Cynhwysiant Cymunedol • Byw'n Annibynnol • Cyflogadwyedd Mae'r cwricwlwm yn darparu dull ymarferol a hyblyg o feithrin a chydgrynhoi sgiliau ym mhob un o'r meysydd hyn er mwyn paratoi dysgwyr ar gyfer bywyd fel oedolyn. Mae sgiliau cyfathrebu, rhifedd a llythrennedd digidol yn rhan allweddol o ddysgu, ac mae cyfleoedd i ddatblygu ac ymarfer y sgiliau hyn wedi'u hymgorffori ym mhob un o'r pedair colofn.

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Nid oes gofynion mynediad ffurfiol, ond cynhelir cyfweliad anffurfiol. Yn ystod y cyfweliad, cwblheir asesiad cychwynnol i asesu amrywiaeth o sgiliau. Trafodir anghenion cymdeithasol ac emosiynol y dysgwr er mwyn sicrhau bod y cwrs yn addas ar gyfer eu hanghenion.


Mae'r rhan fwyaf o ddysgwyr yn gweithio tuag at lefel Mynediad 2/3.

Asesiad

Nid oes asesiadau ffurfiol ar y rhaglen hon. Bydd cynnydd myfyrwyr tuag at dargedau unigol yn cael ei asesu a'i adolygu'n barhaus. Cynhelir adolygiadau gyda myfyrwyr a'u rhieni/gofalwyr drwy gydol y flwyddyn. Mae dilyniant yn cael ei olrhain drwy osod targedau ac asesu.

Dilyniant Gyrfa

Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus bydd cyfle i chi symud ymlaen i gyrsiau ar lefel uwch mewn maes galwedigaethol.

Ymgeisiwch Nawr Gofyn am alwad yn ôl
Manylion y Cwrs
Lefel:Mynediad
Modd:Llawn Amser
Dyddiad:02/09/2024
Lleoliad:Ystrad Mynach
Cod y Cwrs:ISFE47YA
Ffioedd
Ffi Cofrestru Llawn Amser: £15

Sylwch: Mae ffioedd yn daladwy am bob blwyddyn astudio.

Oriel y Cyfryngau
Beth mae Dysgwyr yn ei Ddweud
Select Location

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau