Diploma Mynediad i Addysg Uwch (Biowyddoniaeth)

Mae’r cwrs yn cynnig llwybr i Addysg Uwch i gyrsiau’n seiliedig ar wyddoniaeth. Nod y cwrs ydy darparu amgylchedd cefnogol a chyfeillgar i’ch galluogi i ddatblygu’ch potensial a’ch paratoi ar gyfer astudio mewn prifysgol. Mae’r cwrs yn cyfateb i 3 Lefel A ac er nad oes arholiadau, gall y cwrs fod yn heriol ac efallai bydd rhaid i chi weithio ar nifer o aseiniadau ar unrhyw adeg penodol. Mae’n gofyn am ymrwymiad parhaus drwy gydol y flwyddyn academaidd, ond os yw'n llwyddiannus, byddwch yn meddu ar yr hyn sydd ei angen ar gyfer prifysgol.


Mae’r rhaglen yn eich paratoi ar gyfer symud ymlaen i Addysg Uwch i astudio Gwyddorau Biofeddygol, Maethiad neu Ddieteteg. Bydd hefyd yn diwallu gofynion mynediad ar gyfer Nyrsio, Bydwreigiaeth a phroffesiynau perthynol i feddyginiaeth megis Ffisiotherapi, Therapi Galwedigaethol, Ymarferydd yr Adran Lawdriniaethau a Gwyddorau Parafeddygol. Bydd hefyd yn caniatáu i chi symud ymlaen i gyrsiau maes Cemeg a chyrsiau sydd yn gofyn am gynnwys llawer o wyddoniaeth megis Gwyddor Fforensig.

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Y prif bynciau y byddwch yn eu hastudio fydd Microbioleg a Chemeg ynghyd ag unedau ategol mewn Mathemateg a Sgiliau Astudio.


Mae datblygu Sgiliau Hanfodol yn hollbwysig i’ch datblygiad ac ar gyfer symud i fyd gwaith. Rhoddir pwyslais ar ddatblygu Sgiliau Astudio a bydd yn cynnwys ysgrifennu traethodau, ysgrifennu aseiniadau, cyfeirnodi gan ddefnyddio system Harvard a chyflwyno gwaith gan ddefnyddio TG. Rhennir pob uned yn dalpiau dysgu o unedau a allai fod ar lefel 2 h.y. safon TGAU neu lefel 3 h.y, safon Lefel A.

Beth fydda i'n ei ddysgu?

TGAU gradd C i gynnwys Saesneg Iaith neu Cymraeg Mamiaith a Mathemateg neu Rhifedd neu gwblhau asesiad mynediad llwyddiannus o Lythrennedd a Rhifedd. Os ydy’r cymwysterau yn hyn na 3 blynedd, bydd gofyn am asesiad mynediad.

Asesiad

Cewch eich asesu'n barhaus, sgiliau ymarferol, traethodau, prosiectau, llyfrau gwaith, trafodaethau a chyflwyniadau llafar gyda rhai profion ar ddiwedd uned. Bydd disgwyl i chi hefyd gynnal ffeiliau’ch cwrs a phob portffolio i’r safon angenrheidiol.

Dilyniant Gyrfa

Ar ôl i chi gwblhau’r cwrs hwn, gallwch wneud cais i gyrsiau gradd Anrhydedd mewn Addysg Uwch mewn amrediad eang o Broffesiynau Nyrsio a Gofal Iechyd neu Raddau Gwyddorau Biofeddygol a Chemeg a chyrsiau mewn prifysgol neu sefydliad addysg uwch o’ch dewis neu chwilio am swydd.

Ymgeisiwch Nawr Gofyn am alwad yn ôl
Manylion y Cwrs
Lefel:Lefel 3
Modd:Llawn Amser
Dyddiad:01/09/2026
Lleoliad:Ystrad Mynach
Cod y Cwrs:02F301YA
Ffioedd
Ffi Cofrestru Llawn Amser: £15

Sylwch: Mae ffioedd yn daladwy am bob blwyddyn astudio.

Beth mae Dysgwyr yn ei Ddweud

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

01685 887500

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

01443 662800

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

01443 663202

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

01443 816888
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Porth Dysgwyr a Staff Ap Coleg y Cymoedd Newyddion ADY Gyrfaoedd