Byddwch yn astudio Cymdeithaseg, Seicoleg, Anatomeg Ddynol, Astudiaethau Iechyd, Rhifedd a Chyfathrebu. Astudir pob maes pwnc a Chyfathrebu ar Lefel 3; Astudir Rhifedd ar Lefel 2.
Bydd angen graddau TGAU Cymraeg / Saesneg Iaith a TGAU Mathemateg/Rhifedd A*-C neu Sgiliau Hanfodol Cymru Rhifedd a Chyfathrebu Lefel 2 neu gwblhau Sgiliau ar gyfer Diploma Astudiaethau Pellach neu gymhwyster galwedigaethol Lefel 2.
Bydd angen asesiad mynediad os yw’ch cymwysterau'n hyn na 3 blynedd neu os nad oes gennych gymwysterau blaenorol. Bydd yr asesiad yn cynnwys agweddau ar lythrennedd a rhifedd i benderfynu a ydych yn gallu gweithio ar lefel 3 ai peidio. Bydd angen cyfweliad llwyddiannus ar bob ymgeisydd.
Byddwch yn cael eich asesu drwy asesiadau parhaus, traethodau, prosiectau a chyflwyniadau llafar gyda rhai profion diwedd uned. Bydd disgwyl i chi hefyd gynnal ffeiliau eich cwrs a phob portffolio yn ôl y safonau gofynnol.
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, bydd modd i chi wneud cais am gyrsiau gradd Anrhydedd Addysg Uwch mewn ystod eang o gyrsiau sy’n gysylltiedig ag Iechyd mewn Prifysgol neu Sefydliad Addysg Uwch o'ch dewis.