Mae’r cwrs UG wedi’i rannu’n ddwy uned ar wahân: Mae Uned 1 yn darparu cyfleoedd i gynhyrchu gwaith ymarferol, syniadau ac ymchwil o ffynonellau gwreiddiol a chyd-destunol. Byddwch yn arbrofi gyda’r cyfryngau a phrosesau a datblygu a mireinio’ch syniadau, cyflwyno’ch canlyniadau.
Aseiniad a osodir yn allanol ydy Uned 2 gyda thema eang fel man cychwyn a fydd yn eich galluogi i weithio’n fwy annibynnol wrth ddatblygu’ch syniadau, bwriadau a’ch ymateb. Mae A2 yn yr ail flwyddyn hefyd yn cynnwys dwy uned: Mae Uned 3 yn ymgorffori dwy elfen gysylltiedig, y ddwy gyda chanlyniadau terfynol gwahanol: Gwaith Ymarferol ac Astudiaeth Bersonol. Bydd ymchwiliad a datblygiad y gwaith Ymarferol a’r astudiaeth Bersonol yn cael eu dangos drwy astudiaethau atodol. Uned 4 ydy’r Aseiniad a Osodir yn Allanol a hwn fydd diwedd cwrs A2. Mae’r papur yn cynnwys thema eang fel man cychwyn gyda’r pwyslais ar ymchwil ac annibyniaeth wrth ddatblygu syniadau a chanlyniad.
Bydd angen 5 TGAU Graddau A*- C gan gynnwys Celf neu dystiolaeth o allu artistig ar ffurf portffolio cynhwysfawr a ddilyswyd gan yr athrawon Celf
Cewch eich gwahodd i fynychu cyfweliad ac asesir eich sgiliau llythrennedd a rhifedd er mwyn sefydlu a oes angen cymorth arnoch chi.
Cewch eich asesu drwy waith cwrs 60% ac aseiniadau a osodir yn allanol 40%.
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, mae mwyafrif o’r myfyrwyr yn symud ymlaen i gwrs blwyddyn Sylfaen ac yna i brifysgol i astudio ystod eang o bynciau gradd.
AS Photography
AS Media Studies
AS Film Studies
AS English
BTEC Built Environment
AS Drama
This subject is part of the full time A level Programme. To apply for this subject you need to apply for the A Level or Combined Programme
A Level Programme - You will need to choose 3 or 4 AS Levels to study the A Level Programme
Combined Programme - You will need to choose 1 or 2 AS Levels combined with a vocational option. Vocational options include: Applied Science, IT, Business, Criminology, Law, Sports and Exercise Sciences, or Health and Social Care.