Byddwch yn astudio tair uned orfodol ar gyfer yr UG gan gynnwys: Llafar: Ffilm ac Amlgyfryngau yng Nghymru a’r ffilm ‘Hedd Wyn’ yn ogystal â darn o waith cwrs ysgrifenendig rhwng 2,000 a 3,000 o eiriau. Rydych hefyd yn astudio’r Defnydd o Iaith a Barddoniaeth – astudio gramadeg a saith cerdd.
Yn ystod yr ail flwyddyn (A2 ), astudir tair uned orfodol gan gynnwys y ddrama ‘Siwan’. Cewch astudio ‘Amlgyfryngau yng Nghymru’ yn ogystal â Straeon Byrion ac ysgrifennu llythyr ffurfiol i fynegi barn ar themâu cyfoes. Mae ‘Defnydd o iaith a Barddoniaeth’ yn golygu astudio gramadeg a phedair thema yn y farddoniaeth.
Bydd angen 5 TGAU gradd A * - C yn cynnwys Gradd B neu'n uwch yn y Gymraeg (haen uwch) neu ruglder llafar sylweddol. Cwrs UG Cymraeg Ail Iaith yw hwn. Ni all myfyrwyr sydd â TGAU Cymraeg (Iaith Gyntaf) ddilyn y cwrs hwn.
Cewch eich gwahodd i fynychu cyfweliad ac asesir eich sgiliau llythrennedd a rhifedd er mwyn sefydlu a oes angen cymorth arnoch chi.
Cewch eich asesu drwy gymysgedd o arholiad, gwaith cwrs a/neu waith llafar/clywedol.
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i astudio Cymraeg ar lefel Addysg Uwch, symud i gyflogaeth yn y Gwasanaeth Sifil, y cyfryngau yng Nghymru, gwasanaethau iechyd a gofal, yr Heddlu.
This subject is part of the full time A level Programme. To apply for this subject you need to apply for the A Level or Combined Programme
A Level Programme - You will need to choose 3 or 4 AS Levels to study the A Level Programme
Combined Programme - You will need to choose 1 or 2 AS Levels combined with a vocational option. Vocational options include: Applied Science, IT, Business, Criminology, Law, Sports and Exercise Sciences, or Health and Social Care.