BA (Anrh) Llunio Gwisgoedd

Mae’r BA (Anrh) mewn Llunio Gwisgoedd ar gyfer Sgrin a Llwyfan yng Ngholeg y Cymoedd Nantgarw yn gwrs tair blynedd llawn amser, a ddyfernir gan Brifysgol De Cymru.


Mae'r cwrs hwn yn cyflwyno myfyrwyr i astudio gwisgoedd o fewn cyd-destun hanesyddol a chyfoes gan feithrin sgiliau arbenigol megis torri patrymau, creu dillad ac addurno arwynebau.

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd angen dawn greadigol arnoch a'r gallu i ddefnyddio'ch gwybodaeth dylunio a'ch sgiliau creadigol i ddehongli syniadau. Mae astudio gwisgoedd o fewn ei gyd-destun hanesyddol neu gyfoes yn rhan annatod o’r cwrs a bydd ymchwil i wisgoedd cyfnod yn cynnig cyfeiriad a chymorth drwy gydol y broses ddehongli.


Bydd caffael sgiliau arbenigol fel torri patrymau, creu dillad ac addurno arwynebau yn rhoi'r wybodaeth hanfodol sydd ei hangen arnoch i ddechrau'r broses o lunio gwisgoedd. Bydd meysydd arbenigol fel corsetwaith a theilwra, yn cael eu cyflwyno drwy gydol y cwrs gan ymestyn a chyfoethogi eich arbenigedd. Bydd y cwrs yn cynnig cipolwg i chi ar fyd proffesiynol ffilm a theatr gydag ymweliadau diwydiannol allanol a chyfleoedd lleoliadau gwaith ar draws ystod eang o gwmnïau ffilm / theatr ledled y wlad. Bydd hyn yn rhoi profiad i chi o gymhwyso sgiliau a gwybodaeth a gweithio mewn tîm ac yn annibynnol mewn amgylchedd proffesiynol.

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd angen un o'r canlynol arnoch: Safon Uwch gyda phroffil gradd BCC, BTEC Lefel 3 gyda phroffil Rhagoriaeth/Teilyngdod/Teilyngdod, 5 TGAU gradd C neu’n uwch gan gynnwys Mathemateg a Saesneg/Cymraeg Iaith, Mynediad i AU (15 Rhagoriaeth , 21 Teilyngdod, 9 Pas). Bydd pob ymgeisydd yn cael cyfweliad ar sail portffolio.

Asesiad

Byddwch yn cael eich asesu drwy gwblhau gwaith cwrs sy’n seiliedig ar aseiniad ac arsylwi gwaith ymarferol.

Dilyniant Gyrfa

Mae cyfleoedd cyflogaeth yn bodoli ar sail llawrydd neu weithiwr cyflogedig mewn cwmnïau theatr a ffilm ar ôl cwblhau'r cwrs hwn. Mae'r cwrs yn cynnig cysylltiadau rhagorol gyda diwydiant a chyfleoedd gwaith fel gwneuthurwr gwisgoedd mewn tram cynhyrchu. Mae dysgwyr blaenorol wedi gweithio gyda sefydliadau fel S4C, Mappa Mundi, The Costume Society, ac Opera Cenedlaethol Cymru yn ogystal â chwmnïau ffilm/theatr annibynnol.

Nodiadau Pellach

Mae angen prynu deunyddiau a/neu git ar gyfer y cwrs hwn (Ffioedd Stiwdio - £100). Trafodwch hyn yn ystod y cyfweliad gyda thiwtor ar ôl i chi wneud cais. Dim ceisiadau gan fyfyrwyr tramor o'r tu allan i'r UE.
Gall ffioedd AU newid.

HE Fees are subject to change

Ymgeisiwch Nawr Gofyn am alwad yn ôl
Manylion y Cwrs
Lefel:Lefel 6
Modd:Llawn Amser
Dyddiad:02/09/2024
Lleoliad:Nantgarw
Cod y Cwrs:9AF609NB
Ffioedd
HE Tuition Fee Year 1: £9000
Studio Fee: £100

Sylwch: Mae ffioedd yn daladwy am bob blwyddyn astudio.

Gyrfaoedd y Dyfodol
Beth allech chi ei ennill:
Fel Swyddogion, cynhyrchwyr a chyfarwyddwyr yn y celfyddydau :
Beth allech chi ei ennill:
Fel Ffotograffwyr, gweithwyr ym maes offer clyweledol a darlledu:
Beth mae Dysgwyr yn ei Ddweud

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau