Mae’r cwrs yn cynnwys pedair uned. Bydd yr uned gyntaf yn galluogi dysgwyr i ddangos eu bod yn deall y gwahanol fathau o droseddau, y dylanwadau ar ganfyddiadau pobl o droseddau a pham nad yw rhai troseddau yn cael eu riportio.
Bydd yr ail uned yn caniatáu i’r dysgwyr ddod i ddeall y rhesymau pam bod pobl yn troseddu, gan dynnu ar yr hyn a ddysgwyd yn Uned 1. Bydd y drydedd uned yn darparu dealltwriaeth o ‘r system gyfiawnder troseddol o adeg y drosedd hyd at y ddedfryd. Bydd dysgwyr yn datblygu’r ddealltwriaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i ystyried y wybodaeth er mwyn adolygu cyfiawnder y dedfrydau mewn achosion troseddol. Yn yr uned olaf orfodol, bydd dysgwyr yn cymhwyso’u dealltwriaeth o ymwybyddiaeth o droseddolrwydd, damcaniaethau troseddegol a’r broses o ddod â’r cyhuddedig o flaen ei well er mwyn gwerthuso pa mor effeithiol ydy rheolaeth gymdeithasol i gyflenwi polisi cyfiawnder troseddol.
Bydd angen 5 TGAU Graddau A*- C gan gynnwys Iaith Saesneg/Cymraeg.
Cewch eich gwahodd i fynychu cyfweliad ac asesir eich sgiliau llythrennedd a rhifedd er mwyn sefydlu a oes angen cymorth arnoch chi.
Cewch eich asesu drwy gyfuniad o waith cwrs ac arholiad.
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus disgwylir y bydd llawer o fyfyrwyr yn gwneud cais i brifysgol ac yn cael cynnig lle i astudio mewn prifysgol neu gael gwaith cyflogedig o fewn y sector cyfiawnder troseddol, gwaith yn y gwasanaeth prawf ac ym maes Cymdeithaseg a Seicoleg.
This subject is part of the full time A level Programme. To apply for this subject you need to apply for the A Level or Combined Programme
A Level Programme - You will need to choose 3 or 4 AS Levels to study the A Level Programme
Combined Programme - You will need to choose 1 or 2 AS Levels combined with a vocational option. Vocational options include: Applied Science, IT, Business, Criminology, Law, Sports and Exercise Sciences, or Health and Social Care.