Diploma mewn Astudiaethau Sylfaen - Celf a Dylunio Lefel 3/4

Mae’r cwrs Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio yn un o raglenni cryfaf a mwyaf nodedig a llwyddiannus yn y wlad. Ein gwerthoedd craidd ydy: bod yn broffesiynol, yn ysgogol , yn ymatebol ac yn greadigol.


Mae myfyrwyr yn datblygu’r sgiliau a phortffolios sydd eu hangen i astudio rhaglenni gradd mewn celf a dylunio. Mae’r pynciau creadigol a astudir yn caniatáu i fyfyrwyr brofi ystod o ddeunyddiau, prosesau, syniadau creadigol a thechnolegau. Mae hyn yn eu galluogi i nodi ac ystyried dewisiadau gradd yn llwyddiannus.

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Lluniwyd y cwrs o gwmpas tri cham penodol o ddatblygiad ac mae’r cwrs deinamig hwn ar gelf a dylunio yn cychwyn gyda ‘blas’ cyffredinol o’r astudiaethau fel y gallwch brofi amrywiaeth o arbenigedd celf a dylunio. Mae’r sgiliau a’r wybodaeth a gesglir yn arwain at brosiect pwysig terfynol ac arddangosfa a fydd ar agor i’r cyhoedd.


Cewch eich annog i ddatblygu ieithwedd weledol ac mae’r pwyslais ar ddadansoddi, creadigrwydd ac arbrofi. Nod arall cwrs sylfaen celf a dylunio ydy datblygu’ch ymwybyddiaeth ymarferol a chritigol o’r byd gweledol chyfoes a chyd-destunau perthnasol. Addysgir cwrs Diploma mewn Celf a Dylunio drwy amrywiaeth o ddarlithoedd, tiwtorialau, gweithdai ac arddangosfeydd gan siaradwyr gwadd. Cewch hefyd gyfle i deithio tramor i ymweld â dinas ac ymweliadau rheolaidd ag amgueddfeydd ac orielau yn y DU. Mae’r cwrs yn gorffen gydag arddangosfa ddiwedd blwyddyn y myfyrwyr ac mae hon ar agor i gynrychiolwyr o ddiwydiannau celf a dylunio, ysgolion a’r cyhoedd. Cam Un (Cam Archwiliadol) Mae’r cam hwn yn cyflwyno elfennau craidd celf a dylunio. Mae’r rhain yn cynnwys Technegau a Phrosesau’r Cyfryngau, Prosiectau Lluniadu Diagnostig, Technegau Ymchwil, Ffotograffiaeth, Astudiaethau Dylunio, Y Cyfryngau Digidol a Gwneud ac Adeiladu. Cam 2 (Datblygu Practis Arbenigol) Mae’r ail gam yn cyflwyno ystod eang o wahanol fathau o gelf a dylunio i'r myfyrwyr. Caiff myfyrwyr eu herio i feddwl yn greadigol wrth iddyn nhw gael eu hannog i ymgorffori a gorgyffwrdd gwahanol agweddau o gelf a dylunio er mwyn creu gwaith arloesol. Ymhlith yr opsiynau mae: Dylunio 3D, Dylunio Graffeg, Ffotograffiaeth, Darluniad, Celf Gain, Ffasiwn a Thecstilau. Cam 3 (Cam Cadarnhau) Yn ystod y cam olaf byddwch yn parhau i ffocysu ar faes arbenigol wrth i chi weithio tuag at arddangosfa’r flwyddyn olaf. Bydd y cyfnod ymestynnol hwn o waith hunan gyfeiriedig yn gofyn i chi ddefnyddio’r sgiliau, y wybodaeth a’r profiadau a ddatblygwyd yn ystod y cwrs. Byddwch yn cwblhau Prosiect Terfynol ac Arddangosfa Ddiwedd Blwyddyn.

Beth fydda i'n ei ddysgu?

5 TGAU A*- C sy'n cynnwys Saesneg (Iaith) neu Fathemateg AC 1 x Safon Uwch NEU Ddiploma BTEC Lefel 3 neu NVQ Lefel 3 (neu gyfwerth). Bydd gofyn ichi ddarparu portffolio o waith yn ystod eich cyfweliad. Rhaid ichi fod yn 18+ oed.


Mae croeso i ymgeiswyr aeddfed a byddant yn destun cyfweliad portffolio..

Asesiad

Asesir drwy gydol y cwrs drwy bortffolio. Ceir asesiadau ffurfiol ar ddiwedd pob cam.

Dilyniant Gyrfa

Erbyn diwedd y cwrs hwn, byddwch yn meddu ar set drawiadol o gymwysterau a phriodweddau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanyn nhw, ac efallai rai na fyddwch wedi meddwl eu bod yn gysylltiedig â chelf a dylunio. Bydd y cwrs hwn yn eich helpu i ddangos nifer o gymwyseddau a sgiliau trosglwyddadwy gan gynnwys y gallu i weithio’n annibynnol, trefnu a chynllunio, hunan-ysgogi, hunan-reolaeth a chyflwyniad gweledol (i enwi ond rhai). Dyfernir Diploma mewn Celf a Dylunio i’r dysgwyr sy’n cwblhau pob rhan o’r cwrs yn llwyddiannus. Er bod hwn yn gymhwyster gwerthfawr ynddo’i hun ac yn darparu cyfleoedd rhagorol i chi gael gwaith, gallwch hefyd wneud cais am gwrs HND neu gwrs gradd BA (Anrh). mewn prifysgol neu gwrs hyfforddiant athrawon. Oherwydd natur y cwrs, mae nifer o gyn-fyfyrwyr wedi symud ymlaen i gyrsiau gradd israddedig nodedig celf a dylunio. Mae llawer hefyd yn dewis gwneud cwrs hyfforddiant athrawon gan ledu arferion da a brwdfrydedd dros gelf a dylunio. Bydd dysgwyr sy’n cwblhau pob rhan o’r cwrs yn ennill Diploma Celf a Dylunio. Er bod hwn yn gymhwyster gwerthfawr ynddo’i hun ac un sy’n rhagorol ar gyfer darpar gyflogaeth, gallwch hefyd wneud cais am gwrs HND neu radd BA (Anrh) mewn prifysgol neu gwrs hyfforddi athrawon. Oherwydd natur flaengar y cwrs mae nifer o gyn-ddysgwyr wedi symud ymlaen i gyrsiau nodedig – rhai israddedig celf a rhai gradd dylunio. Mae llawer hefyd wedi dewis mynd ar gyrsiau hyfforddi athrawon a pharhau i ledaenu arferion da ym maes celf a dylunio a dangos brwdfrydedd dros gelf a dylunio.

Nodiadau Pellach

Purchase of Materials and/or Kit is required for this course. Please discuss this at interview stage with a tutor after you have applied.

Ymgeisiwch Nawr Gofyn am alwad yn ôl
Manylion y Cwrs
Lefel:Lefel 3
Modd:Llawn Amser
Dyddiad:02/09/2024
Lleoliad:Nantgarw
Cod y Cwrs:9BF303NA
Ffioedd
Ffi Cofrestru Llawn Amser: £15
Studio Fee: £65

Sylwch: Mae ffioedd yn daladwy am bob blwyddyn astudio.

Gyrfaoedd y Dyfodol
Beth allech chi ei ennill:
Fel Artistiaid:
Beth allech chi ei ennill:
Fel Gweithwyr proffesiynol amgylcheddol:
Beth allech chi ei ennill:
Fel Dylunwyr Graffig:
Beth allech chi ei ennill:
Fel Dylunwyr Cynnyrch, Dillad a Chysylltiedig:
Oriel y Cyfryngau
Beth mae Dysgwyr yn ei Ddweud

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau