Tra byddwch yn y coleg byddwch yn dysgu'r sgiliau sydd eu hangen arnoch ar gyfer gwaith. Bydd y rhain yn seiliedig ar drafodaethau a gweithgareddau ymarferol yn yr ystafell ddosbarth a byddant yn cynnwys y canlynol.
• Gwaith Tîm • Cyfathrebu • Sgiliau Ariannol • Entrepreneuriaeth • Trin â Llaw • Gwasanaeth Cwsmeriaid • Adeiladu CV • Ymchwil i Swyddi a Pharodrwydd ar gyfer Swydd
Rhaid i ddysgwyr fod wedi cwblhau blwyddyn ar gwrs Llwybrau 2 neu Lwybrau 3 yng Ngholeg y Cymoedd o'r blaen ac yn awyddus i fynd allan i amgylchedd gwaith. Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol.
Nid oes unrhyw asesu ffurfiol ar y rhaglen hon. Bydd cynnydd myfyrwyr tuag at dargedau unigol yn cael eu hasesu a'u hadolygu'n barhaus. Bydd adolygiadau gyda myfyrwyr a'u rhieni/gofalwyr yn cael eu cynnal drwy gydol y flwyddyn. Mae dilyniant yn cael ei olrhain drwy osod targedau ac asesu.








