Bydd myfyrwyr yn cwblhau Tystysgrif mewn Astudiaethau Galwedigaethol gan gynnwys yr unedau:
Gweithgareddau Hunanasesu, Dilyniant Gyrfa, Gweithgareddau Creadigol a Hamdden i Oedolion a Phlant, Anghenion Iechyd, Cyflwyno Delwedd Broffesiynol mewn Salon, Rôl y Gofalwr Amseroedd Bwyd a Pharatoi Bwyd Sylfaenol. Bydd myfyrwyr hefyd yn cwblhau cymhwyster Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif ar Lefel Mynediad 3.
Rhaid eich bod yn gweithio ar Lefel 2 Mynediad mewn Llythrennedd a Rhifedd. Yn gweithio tuag at gymwysterau Lefel 3 Mynediad.
Defnyddir ystod o dasgau ysgrifenedig, ymarferol a TGCh i asesu cynnydd pob myfyriwr. Bydd cyfleoedd hefyd i fyfyrwyr gymryd rhan mewn lleoliadau gwaith. Felly bydd angen iddynt gael gwiriadau DBS perthnasol.
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i symud ymlaen i un o'r cyrsiau Lefel 1 a gynigir yn y coleg.