Mae'r cwrs yn seiliedig ar berfformiad i raddau helaeth. Byddwch yn cael cyfle i gymryd rhan ar y llwyfan ac oddi arni mewn amrywiaeth o wahanol berfformiadau drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys Gwyl Shakespeare a berfformir mewn theatr broffesiynol. Ochr yn ochr ag elfennau perfformio’r cwrs, mae'r amserlen yn cynnwys Cyfryngau, Celf, Ffotograffiaeth, Llythrennedd a Rhifedd.
Bydd dysgwyr yn ymgymryd â chreu a golygu ffilmiau byr, gwneud eu hanimeiddio eu hunain, ysgrifennu ar gyfer cynnyrch cyfryngau, golygu lluniau eu hunain gan ddefnyddio meddalwedd wahanol ac arddangos eu gwaith celf. Hefyd, rhoddir cyfle i fyfyrwyr arddangos eu sgiliau yn y ‘Gystadleuaeth Sgiliau Cynhwysol’ rhanbarthol.
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Rhennir y cwrs yn unedau unigol, gan weithio tuag at gymhwyster Tystysgrif yn y Celfyddydau Perfformio. Mae'r cwrs yn amrywiol gyda nifer o unedau cyffrous fel; Cymryd rhan mewn Perfformiad, Cynhyrchu Delweddau ar gyfer Cynnyrch Cyfryngau, Recordio ac Addasu Deunydd ar gyfer Cynnyrch Cyfryngau, Ysgrifennu a Golygu ar gyfer Cynnyrch Cyfryngau, Dylunio a Chreu Cynnyrch Celf.
Ymhlith y cymwysterau ychwanegol mae’r cymhwyster Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu a Rhifedd ar lefel Mynediad 3.
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Nid oes angen unrhyw gymwysterau
Asesiad
Bydd eich gwaith yn cael ei asesu drwy ystod o ddulliau, gan gynnwys casgliad o unedau wedi'u cwblhau, portffolios ac arsylwadau ymarferol.