Mae'r cwrs hwn ar gael mewn lleoliadau eraill:

Sylfaen mewn Adeiladwaith a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu. Gwaith Coed a Saernïaeth, a chrefft ychwanegol

Lluniwyd y cwrs hwn ar gyfer y rhai heb unrhyw brofiad blaenorol o waith coed a gwaith saer er mwyn darparu sail i yrfa o fewn y diwydiant adeiladu. Byddwch yn elwa o amrywiaeth o weithgareddau a luniwyd i chi wireddu’ch potensial a’ch galluogi i ddefnyddio’ch sgiliau a’ch gwybodaeth i gael gwaith yn y diwydiant


Mae’r cymhwyster yn cydnabod eich bod yn gwybod y gwaith ac yn profi’r sgiliau yr ydych wedi’u caffael.

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Byddwch yn astudio unedau a fydd yn adlewyrchu anghenion y diwydiant tra’n eich paratoi ar gyfer gyrfa o fewn y sector hwn. Byddwch hefyd yn datblygu Sgiliau Hanfodol mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif


Ymhlith yr unedau y byddwch yn eu hastudio mae: Iechyd, diogelwch a lles yn y diwydiannau adeiladu a chysylltiol, Dod i wybod am wybodaeth dechnegol, meintiau a chyfathrebu ag eraill, Dod i wybod am dechnoleg adeiladu, Cynhyrchu uniadau gwaith coed, Cynnal a chadw a defnyddio offer gwaith saer a gwaith coed a Pharatoi a defnyddio offer llaw pwer ar gyfer gwaith saer a gwaith coed.

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd angen 3 TGAU gradd A * - E sy'n cynnwys Saesneg / Cymraeg a Mathemateg / Rhifedd neu gwblhau Sgiliau Adeiladu Mynediad 3 yn llwyddiannus ac yn gweithio ar lefel Mynediad 3 mewn Llythrennedd a Rhifedd.


Cewch eich gwahodd i fynychu cyfweliad ac asesir eich sgiliau llythrennedd a rhifedd er mwyn sefydlu a oes angen cymorth arnoch chi.

Asesiad

Cewch eich asesu drwy ystod o ddullliau a fydd yn cynnwys profion ymarferol a phrofion ar eich gwybodaeth o’ch gwaith fesul uned, arholiadau allanol a phortffolios Sgiliau Hanfodol.

Dilyniant Gyrfa

Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, byddwch yn gallu symud ymlaen i ddiploma Lefel 2 mewn Gwaith Coed a Gwaith Saer. Os byddwch yn llwyddo i gael gwaith/prentisiaaeth, byddwch yn gymwys i astudio NVQ 2 mewn Gwaith Coed.

Nodiadau Pellach

Purchase of steel toe capped boots, overalls and a course text book is required for this course. Please discuss this at interview stage with a tutor after you have applied.

I ymuno â'r cwrs hwn ar gyfer Medi 2023, ewch i un o'n campysau o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 10am a 4pm.

Bydd ein ceisiadau ym mis Medi 2024 yn agor ar 1 Tachwedd 2023

Gofyn am alwad yn ôl
Manylion y Cwrs
Lefel:Level 2
Modd:Full Time
Dyddiad:04/09/2023
Lleoliad:Ystrad Mynach
Cod y Cwrs:05F203YF
Ffioedd
FT Registration Fee: £15

Sylwch: Mae ffioedd yn daladwy am bob blwyddyn astudio.

Beth mae Dysgwyr yn ei Ddweud
Select Location
Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau