Ym Mlwyddyn 1, byddwch yn astudio: Mathemateg Peirianneg, Technoleg Gwaith Trydan; Electroneg 1 a chyflwyniad i raglennu ‘C’ a Systemau wedi’u Mewnblannu. Ym Mlwyddyn 2, byddwch yn astudio Mathemateg; Pwer a Pheiriannau; Rheolyddion Rhesymeg Rhaglenadwy; Rheolaeth ac Offeryniaeth a Phrosiect Diwydiannol.
Fel arfer bydd angen Tystysgrif /Diploma Lefel 3 mewn Peirianneg Trydan/Electroneg. Caiff cymwysterau eraill eu hystyried yn unigol, yn benodol os oes gan ddysgwyr lawer o brofiad yn y diwydiant.
Bydd yr asesias yn cynnwys aseiniadau ysgrifenedig, dysgu drwy brofiad yn y labordy, arholiad ac adroddiadau ymchwil perthnasol i weithle diwydiannol.
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, gallech symud ymlaen yn eich swydd bresennol neu ddewis i astudio ymhellach. Ar ôl cwblhau’r cwrs Gradd Sylfaen yn llwyddiannus gallwch symud ymlaen i wneud gradd BSc(anrh) mewn Peirianneg. Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus byddwch yn derbyn dyfarniad Prifysgol De Cymru.
Dim ceisiadau gan fyfyrwyr o wledydd tramor nad ydynt yn hanu o'r UE