Yn y cwrs UG byddwch yn cwblhau Mathemateg TGA Lefel A. Dyma’r Modiwlau lefel A: Craidd 1, 2, 3 a 4 (C1-C4) a Mecaneg 1 a 2 (M1-M2). Bydd y modiwlau hyn yn delio â nifer o bynciau, gan gynnwys:
Syrdiau, Algebra, Geometreg Cyd-drefnol, Gwahaniaethiad a Ffwythiannau, Integradau, Dilyniannau a Chyfresi, Trigonometreg, Esbonolion a Logarithmau, Hafaliadau Cylchoedd, Arcau/Segmentau, Integradau, Rheol Trapesiwm, Dulliau Iterus, Rheol Simpson, Cyfres Binominal, Cyfaint Cylchdro, Grymoedd a Symudiad, Ffrithiant, Momentwm ac Ergyd, Momentau, Fectorau a Hafaliadau Gwahaniaethiad, Egni a Phwer. Yn yr ail flwyddyn (A2), byddwch yn cwblhau Mathemateg Pellach TGA Uwch. Y Modiwlau Mathemateg Pellach ydy: Mathemateg Pur Pellach 1, 2 a 3, (FP1-FP3), Mecaneg 3 (M3) ac Ystadegau 1 a 2 (S1-S2). Bydd y modiwlau hyn yn cynnwys: Anwythiad Mathemategol, Symiant Cyfresi Terfynedig, Rhifau Cymhlyg, Hafaliaid Polynomaidd, Matriciau, Deilliadau, Ffracsiynau Rhannol, Theorem de Moivre, Hafaliadau Trigonometrig, Ffwythiannau Real, Conigau, Integradau, Ffwythiannau Hyperbolig, Cyfres ‘Maclaurin & Taylor’, Atebion Agos Hafaliadau, Cyfesurynnau Pegynol, Hafaliadau Differol, Mudiant, Ysgogiad, Stateg, Tebygolrwydd, Hapnewidynnau Arwahannol a Pharhaus, Gwasgariad Binomial a Poisson, Gwasgariad Unffurf, Theorem Ffin Canolog, Profi Rhagdybiaethau, Hypothesis Testing, Ffin Hyder.
Bydd angen 5 TGAU Graddau A*- C gan gynnwys Iaith Saesneg a gradd A mewn Mathemateg.
Cewch eich gwahodd i fynychu cyfweliad ac asesir eich sgiliau llythrennedd a rhifedd er mwyn sefydlu a oes angen cymorth arnoch chi.
Cewch eich asesu drwy arholiad 100%
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, mae llawer o fyfyrwyr yn gwneud cais i brifysgol a chael cynnig lle i astudio. Mae cymwysterau Mathemateg Pellach yn uchel eu parch ac mae prifysgolion yn eu croesawu. Mae myfyrwyr sy’n astudio Mathemateg Pellach yn dangos ymrwymiad cryf i’w hastudiaethau yn ogystal â dysgu mathemateg sy’n ddefnyddiol iawn ar gyfer unrhyw radd sy’n cynnwys elfen gref o fathemateg. Mae rhai cyrsiau mewn prifysgolion nodedig yn gofyn i chi feddu ar gymhwyster Mathemateg Pellach ac efallai fe wnân nhw addasu eu gofynion gradd yn fwy ffafriol i fyfyrwyr yn meddu ar Fathemateg Pellach.
This subject is part of the full time A level Programme. To apply for this subject you need to apply for the A Level or Combined Programme
A Level Programme - You will need to choose 3 or 4 AS Levels to study the A Level Programme
Combined Programme - You will need to choose 1 or 2 AS Levels combined with a vocational option. Vocational options include: Applied Science, IT, Business, Criminology, Law, Sports and Exercise Sciences, or Health and Social Care.