Lluniwyd y cwrs TGAU i wella’ch mathemateg yn y meysydd canlynol: rhif, siâp a gofod; trin data a chymhwyso Mathemateg. Delir hefyd â’ch sgiliau cyfrifiannell a thechnegau arholiad.
Mynediad i haen Ganolradd: Gradd D. Mynediad i'r haen Uwch: Gradd C neu cewch wahoddiad i gael eich asesu gan aelod o'r tîm TGAU.
Mae dau arholiad ar ddiwedd y flwyddyn academaidd, un gyda chyfrifiannell ac un heb gyfrifiannell. Cewch eich asesu drwy gydol y flwyddyn er mwyn monitro’ch cynnydd.
Yn aml mae angen TGAU Mathemateg gradd C neu uwch i gael mynediad i addysg uwch, prentisiaethau a chyflogaeth.