Lefel UG (blwyddyn 1) Uned 1: Llywodraeth yng Nghymru a’r DU Mae Uned 1 yn gyflwyniad i sut mae Cymru a'r DU yn cael eu llywodraethu heddiw. Trwy astudio'r Cyfansoddiad; Cynulliad Cenedlaethol a'r Senedd; Llywodraeth Cymru a'r DU; Y Goruchaf Lys a'r UE, bydd dysgwyr yn gallu trafod, dadansoddi a gwerthuso'r themâu, materion a dadleuon allweddol sy'n ymwneud â llywodraethu yng Nghymru a'r DU.
Uned 2: Byw a chymryd rhan mewn Democratiaeth Mae Uned 2 yn gyflwyniad i'r cysyniad o ddinasyddiaeth weithredol; hawliau a chyfrifoldebau dinasyddion, rhai o'r ffyrdd y gall dinasyddion gymryd rhan mewn democratiaeth a phwysigrwydd ymgysylltu â dinasyddion. Bydd dysgwyr yn gallu trafod, dadansoddi a gwerthuso'r themâu, materion a dadleuon allweddol, a disgwylir y bydd dysgwyr yn ymchwilio i ddatblygiadau ac enghreifftiau cyfoes. Lefel U2 (blwyddyn 2) Uned 3: Cysyniadau a Damcaniaethau Gwleidyddol Mae'r uned hon yn cynnwys astudio damcaniaethau gwleidyddol a'u cymhwyso. Bydd dysgwyr yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth feirniadol o ystod o draddodiadau ideolegol: rhyddfrydiaeth, ceidwadaeth, sosialaeth, comiwnyddiaeth a chenedlaetholdeb, a'u perthnasedd cyfoes. Wrth astudio effaith syniadau gwleidyddol ar wleidyddiaeth fyd-eang mae disgwyl i ddysgwyr astudio o leiaf dau ranbarth byd-eang o blith Affrica, America, Asia ac Ewrop. Uned 4: Llywodraeth a Gwleidyddiaeth UDA Mae'r uned hon yn canolbwyntio ar thema llywodraeth UDA. Mae'n edrych ar y gwahanol brosesau sy'n gysylltiedig â gwneud penderfyniadau a’r rhwystrau a’r gwrthbwysau sy'n gynhenid yn system wleidyddol yr UD. Mae'n uned synoptig ac anogir myfyrwyr i feddu ar y wybodaeth ddiweddaraf am faterion cyfoes yn UDA a gwledydd eraill. Anogir cymhwyso gwybodaeth a gafwyd o'r cwrs Gwleidyddiaeth UG wrth werthuso rôl pleidiau gwleidyddol, grwpiau pwyso ac ymddygiad pleidleisio yn UDA.
Bydd angen 5 TGAU graddau A * - C yn cynnwys Saesneg/Cymraeg. Fe'ch gwahoddir i ddod i gyfweliad, a byddwch yn sefyll asesiad mewn llythrennedd a rhifedd, er mwyn pennu a oes angen unrhyw gefnogaeth.
Rhennir y fanyleb hon yn gyfanswm o 4 uned: 2 uned UG a 2 uned U2. Mynegir y pwysiadau a nodir isod yn nhermau'r cymhwyster Safon Uwch llawn. Blwyddyn 1 Uned UG 1: Llywodraeth yng Nghymru a'r Deyrnas Unedig - Arholiad ysgrifenedig: 1 awr 30 munud, 20% o'r cymhwyster. Uned UG 2: Byw a chymryd rhan mewn democratiaeth - Arholiad ysgrifenedig: 1 awr 30 munud, 20% o'r cymhwyster. Blwyddyn 2 A2 Uned 3: Cysyniadau a damcaniaethau gwleidyddol - Arholiad ysgrifenedig: 2 awr 30 munud, 30% o'r cymhwyster. A2 Uned 4: Llywodraeth a gwleidyddiaeth UDA - Arholiad ysgrifenedig: 2 awr 30 munud, 30% o'r cymhwyster.
Mae'r cwrs hwn yn cyflwyno mynediad at ystod eang o gyfleoedd gyrfa ac addysg uwch posibl mewn meysydd fel y Gyfraith, Busnes ac Economeg, y Cyfryngau, Athroniaeth ac, wrth gwrs, Gwleidyddiaeth. Pe bai myfyrwyr yn penderfynu peidio â bwrw ymlaen ag astudio pellach, bydd y cwrs hwn yn cyfoethogi eu synnwyr o ddinasyddiaeth ac yn eu harfogi â sgiliau trosglwyddadwy datblygedig a fydd yn eu grymuso i ystyried ystod eang o gyfleoedd cyflogaeth.