HNC mewn Peirianneg Drydanol/Electronig (opsiwn i symud ymlaen i'r Radd Sylfaen ym Mlwyddyn 3)

Mewn byd sy’n newid yn gyson rhaid i beirianwyr a thechnegwyr feddu ar wybodaeth a sgiliau sy’n berthnasol i nifer o ddisgyblaethau.


Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i weithredu a chyfathrebu’n fwy effeithiol ar draws ystod eang o weithgareddau peirianyddol.

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn astudio pedwar modiwl: Bydd y modiwl Electroneg ac Egwyddorion yn delio â meintiau cymhleth, theori cylched, cylchedau cysain a chylchedau electronig digidol. Bydd y modiwl Mathemateg yn cynnwys Matrics, Rhifau Cymhleth, Datrys Hafaliadau, Ffactorio, Mesur Radian, Calcwlws, Ystadegau, Tebygolrwydd a Matlab.


Bydd y modiwl Rhagarweiniad i Raglennu C a Systemau wedi’u Mewnblannu yn delio â’r canlynol: Hanfodion ysgrifennu rhaglen, araeau, goleddfwyr, ffwythiannau ystod newidiol, pwyntyddion ac araeau. Rhagarweiniad i systemau wedi’u mewnblannu, cymwysiadau nodweddiadol, pensaernïaeth a chydrannau hanfodol. Bydd y modiwl Rheolyddion Rhesymeg Raglenadwy (RhRhR/PLC) yn canolbwyntio ar roi Golwg Cyffredinol ar Dechnoleg RhRhR/PLC, amrediad o reolyddion 'PLC', cymwysiadau, rhesymeg ysgol ddringo a strwythurau rheoli sy’n defnyddio ffwythiant sylfaenol. Yn yr ail flwyddyn, byddwch yn astudio dau fodiwl: Bydd y modiwl cyntaf sef Cynllunio Gwaith Gosod Trydan yn cynnwys rheoliadau Argraffiad 17, systemau cyflenwi trydan, diogelu, ynysu, cyfarpar graddio offer. Mae’r ail fodiwl sef Rhagarweiniad i Reoli Ansawdd a’r Amgylchedd yn cynnwys Systemau Rheoli Ansawdd, deddfwriaeth, gofal cwsmeriaid a’r gyfraith, technegau 'six sigma', dibynadwyedd ac archwilio.

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd angen cymhwyster Lefel 3 (BTEC neu Ddiploma) mewn maes peirianneg addas.


Caiff dysgwyr sydd ddim yn meddu’r cymwysterau academaidd ond â phrofiad perthnasol eu hystyried.

Asesiad

Cewch eich asesu yn gyfnodol ymhob uned astudiaeth. Bydd eich asesiadau’n amrywiol ac yn dibynnu ar y modiwl y byddwch yn ei astudio. Yn gyffredinol, bydd asesiadau yn golygu 100% gwaith cwrs neu 50% gwaith cwrs a 50% arholiad ar ddiwedd uned.

Dilyniant Gyrfa

Ar ôl cwblhau’r cwrs HNC yn llwyddiannus, gallech symud ymlaen i gwrs Gradd Sylfaen mewn Peirianneg Trydan ac Electroneg sy’n gymhwyster mynediad i gwrs gradd BSc (Anrh) ym Mhrifysgol De Cymru. Byddwch wedi caffael y wybodaeth a’r hyfforddiant i allu cwrdd ag anghenion y maes diwydiannol a masnachol modern. Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus byddwch yn derbyn dyfarniad Prifysgol De Cymru.

Nodiadau Pellach

Dim ceisiadau gan fyfyrwyr o wledydd tramor nad ydynt yn hanu o'r UE

HE Fees are subject to change

Ymgeisiwch Nawr Gofyn am alwad yn ôl
Manylion y Cwrs
Lefel:Lefel 4
Modd:Rhan Amser Day
Dyddiad:16/09/2024
Dyddiau:Tuesday
Amser:09:00 - 18:00
Lleoliad:Nantgarw
Cod y Cwrs:04P404NA
Ffioedd
HE Tuition Fee Year 1: £2800

Sylwch: Mae ffioedd yn daladwy am bob blwyddyn astudio.

Gyrfaoedd y Dyfodol
Beth allech chi ei ennill:
Fel Peirianwyr trydan:
Beth allech chi ei ennill:
Fel Peirianwyr electroneg:
Beth allech chi ei ennill:
Fel Technegwyr trydan ac electroneg :
Beth mae Dysgwyr yn ei Ddweud

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau