Mae'r unedau a gwmpesir fel a ganlyn: • Peirianneg Mathemateg 1 – 20 credyd • Dylunio a Gweithgynhyrchu – 20 credyd • Technegau Peirianneg Proffesiynol – 20 credyd • Gwyddor Fecanyddol 1 – 20 credyd • Systemau Mesur – 20 credyd • Thermohylifau 1 – 20 credyd
Mae Coleg y Cymoedd yn ystyried pob cais ar sail unigol sy’n golygu y gallen ni wneud cynnig ar sail cymwysterau, proffil personol a phrofiad. Derbynnir cyfuniad o gymwysterau ac mae’n bosib y gellir ystyried cymwysterau eraill nad ydyn nhw wedi'u rhestru. Dyma gynnig VRQ nodweddiadol – o leiaf Diploma Lefel 3 VRQ mewn disgyblaeth briodol gydag uned o Fathemateg wedi’i chynnwys. Cewch eich gwahodd i fynychu cyfweliad a chewch eich asesu mewn llythrennedd a rhifedd er mwyn sefydlu a oes angen cymorth arnoch.
Byddwch yn cael eich asesu drwy nifer o ddulliau asesu fel gwaith ymarferol, ysgrifennu traethodau, gwaith portffolio ac asesiad wedi'i amseru ar y safle.
Ar ôl cwblhau'r cwrs HNC mewn Peirianneg Fecanyddol, anogir myfyrwyr i symud ymlaen i'r HND mewn Peirianneg Fecanyddol yma yng Ngholeg y Cymoedd. Mae myfyrwyr ar y cwrs HNC mewn Peirianneg Fecanyddol wedi cael cyfle i weithio gydag amrywiaeth o bartneriaid a gweithwyr proffesiynol y diwydiant ar friffiau byw a lleoliadau gwaith, yn cynnwys: Axiom, Trafnidiaeth Cymru, GE Aviation, FSG, British Airways, Pullman Rail, y Bathdy Brenhinol, Ensinger, Nuaire, Waldon LTD, Kautex, Renishaw, Eriez Magnetics, Prysmian cables, General Dynamics, Sony a llawer o rai eraill.






