Yn UG, byddwch yn dysgu am system gyfreithiol Lloegr a Chymru. Byddwch yn ymdrin â strwythurau a phrosesau’r llysoedd a dewisiadau amgen i'r llysoedd, yn edrych ar ffynonellau cyllid ac effaith moesoldeb a hawliau dynol.
Byddwch yn dysgu am y personél cyfreithiol - barnwyr, bargyfreithwyr a chyfreithwyr. Yn ogystal, byddwch yn astudio ffynonellau cyfreithiau, cynsail barnwrol, dehongli statudol a’r UE, Hawliau Dynol a chyrff diwygio’r gyfraith. Byddwch hefyd yn astudio cyfraith sifil camwedd, gan gynnwys esgeulustod ac atebolrwydd meddianwyr. Mae U2 yn ymdrin ag astudio Hawliau Dynol, gan ystyried rhyddid yr unigolyn ac mae'n ymdrin â phynciau megis pwerau'r heddlu a threfn gyhoeddus. Byddwch hefyd yn astudio cydrannau cyfraith droseddol, sy'n ymdrin ag agweddau ar ladd, troseddau nad ydynt yn angheuol, dedfrydu ac amddiffyn.
Bydd angen 5 TGAU gradd A*- C yn cynnwys Gradd B yn y Gymraeg / Saesneg. Nid oes angen ichi fod wedi astudio TGAU yn y Gyfraith..
Fe'ch gwahoddir i fynychu cyfweliad, a byddwch yn sefyll asesiad mewn llythrennedd a rhifedd, er mwyn penderfynu a oes angen unrhyw gymorth arnoch.
Byddwch yn cael eich asesu 100% drwy arholiad.
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus mae llawer o ddysgwyr yn ymgeisio ac yn cael lleoedd yn y brifysgol neu'n mynd i gyflogaeth yn yr heddlu, y gwasanaeth prawf a’r Gwasanaeth Llysoedd.
This subject is part of the full time A level Programme. To apply for this subject you need to apply for the A Level or Combined Programme
A Level Programme - You will need to choose 3 or 4 AS Levels to study the A Level Programme
Combined Programme - You will need to choose 1 or 2 AS Levels combined with a vocational option. Vocational options include: Applied Science, IT, Business, Criminology, Law, Sports and Exercise Sciences, or Health and Social Care.