Tystysgrif Lefel 1 mewn Modelu Parametrig Cynllunio Drwy Gymorth Cyfrifiadur

Mae’r defnydd o systemau Cynllunio gyda Chymorth Cyfrifiadur (CAD) yn y diwydiant wedi datblygu’n rhan hanfodol o’r amgylchedd gwaith modern. Mae’n cael ei ddefnyddio ymhob cam o’r broses gynllunio, o’r cyfnod trafod syniadau a chynhyrchu lluniadau gweithio i gynhyrchu delweddau rhith realaeth. Mae systemau modern CAD yn datblygu drwy’r amser ac maen nhw wedi newid y sgiliau cyfrifiaduraeth sydd eu hangen ar ddylunydd.


Mae’r cymhwyster hwn yn rhoi cyfle i chi ddatblygu’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i greu modelau solet parametrig o gydrannau a chyfosodiadau peirianneg. Byddwch yn gwella’ch dealltwriaeth o Fodelu Parametrig CAD o ran caledwedd, meddalwedd a thechnegau modelu.

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Sut i ddefnyddio caledwedd CAD a systemau gweithredu Defnyddio ystod o orchmynion i greu a chyfyngu’r brasluniau


Sut i ddefnyddio ystod o orchmynion i greu nodweddion allwthiol a chylchdroadol Defnyddio nodweddion a osodir i addasu modelau paramedrig Sut i greu cydosodiadau Sut i ddefnyddio amgylchedd y cynllun lluniadau i gynhyrchu copïau caled

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Does dim gofynion mynediad ffurfiol ac mae’r cwrs yn ddelfrydol os ydych yn chwilio am waith, neu’n cychwyn allan ym maes gweithgynhyrchu neu ddylunio peirianneg ac am ennill sgiliau modelu solet CAD.

Asesiad

Asesir y cwrs drwy'r canlynol: Dau aseiniad yn y dosbarth yn delio â’r sgiliau ymarferol a ddatblygwyd drwy gydol y flwyddyn Un prawf aml-ddewis ar-lein GOLA yn delio â’r wybodaeth sylfaenol sydd ei hangen.

Dilyniant Gyrfa

Gall y cwrs eich helpu i ddod o hyd i waith mewn ystod o swyddi gan gynnwys: Technegydd CAD Rhaglennydd CAD/CAM Gweithiwr peiriant CNC Dylunydd Peirianneg Gall y cymhwyster hwn hefyd arwain at astudiaeth bellach ar lefel uwch.

Ymgeisiwch Nawr Gofyn am alwad yn ôl
Manylion y Cwrs
Lefel:Lefel 1
Modd:Rhan Amser Evening
Dyddiad:02/09/2024
Dyddiau:Day/time and duration: To Be Confirmed
Lleoliad:Nantgarw
Cod y Cwrs:04E107NA
Ffioedd
Registration Fee: £109
Tuition Fee: £267

Sylwch: Mae ffioedd yn daladwy am bob blwyddyn astudio.

Beth mae Dysgwyr yn ei Ddweud

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau