Diploma Lefel 1 yn y Celfyddydau Creadigol a

Gallwch ddatgloi eich potensial creadigol gyda'n Diploma BTEC Lefel 1 cynhwysfawr yn y Celfyddydau Creadigol a'r Cyfryngau. Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer darpar ffotograffwyr, gwneuthurwyr ffilmiau, animeiddwyr, ac artistiaid gweledol, gan gynnig cyflwyniad trylwyr i wahanol ddisgyblaethau creadigol. Byddwch yn archwilio meysydd allweddol fel ffotograffiaeth, cynhyrchu ffilmiau, animeiddio, a thechnegau celf traddodiadol fel lluniadu, paentio, a chrefft, ochr yn ochr â chyflwyniad i ddylunio graffig. Er bod y cwrs yn canolbwyntio'n bennaf ar y celfyddydau gweledol a digidol, mae yna hefyd elfen lai sy'n ffocysu ar berfformio, gan eich helpu i ddatblygu set sgiliau crwn yn y celfyddydau creadigol.


Mae ein rhaglen yn pwysleisio profiad ymarferol, a’i ategu gyda mynediad i offer safonol y diwydiant megis Adobe Creative Cloud. P'un a ydych chi'n dal y siot berffaith, dod â straeon animeiddiedig yn fyw, neu'n mynegi eich creadigrwydd trwy gyfryngau traddodiadol a digidol, mae'r cwrs hwn yn cynnig yr hyblygrwydd a'r arweiniad sydd eu hangen arnoch i archwilio'ch diddordeb. Ymunwch â ni i ddatblygu’ch sgiliau artistig, magu eich hyder, a chymryd y camau cyntaf tuag at ddyfodol yn y diwydiant Celfyddydau Creadigol a'r Cyfryngau!

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd dysgwyr yn astudio ar gyfer Diploma BTEC Lefel 1 mewn Astudiaethau Galwedigaethol, gan ganolbwyntio ar y Celfyddydau Creadigol a'r Cyfryngau. Mae'r cwrs wedi'i strwythuro'n naw uned ymarferol sy'n cwmpasu gwahanol agweddau ar y diwydiannau creadigol:


• Saethu Ffilm Fer • Creu Animeiddiad • Technegau Ffotograffiaeth • Creu Bwrdd Naws • Creu Delwedd Celf (Lluniadu, Paentio, Crefftau) • Rhagarweiniad i Ddylunio Graffig • Ymarfer ar gyfer Perfformiad (cydran fach) • Defnyddio Sbardun ar gyfer Perfformiad (cydran fach) • Ymchwilio pwnc • Datblygu Cynllun Dilyniant Personol • Cydweithio ag Eraill • Bod yn drefnus Mae’r cwrs hwn yn darparu rhagarweiniad hyblyg a deniadol i’r celfyddydau creadigol gyda’r ffocws yn bennaf ar y celfyddydau gweledol a digidol tra’n ymgorffori sgiliau hanfodol mewn perfformiad. Mae hyn yn eich paratoi ar gyfer astudiaeth bellach neu gyfleoedd lefel mynediad yn y diwydiant.

Beth fydda i'n ei ddysgu?

3 TGAU Gradd E neu uwch (gan gynnwys Mathemateg a Saesneg neu Gymraeg Mamiaeth), neu gymwysterau lefel Mynediad cyfatebol.

Asesiad

Cewch eich asesu ar ddiwedd pob uned drwy gydol y cwrs a does dim arholiadau ffurfiol.

Dilyniant Gyrfa

Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus a chael geirda gan diwtor personol, bydd y cymhwyster creadigol hwn yn eich galluogi i arbenigo mewn cwrs Lefel 2 o’ch dewis o fewn y diwydiannau creadigol neu eich galluogi i drosglwyddo’ch sgiliau personol a chyflogadwyedd i’r gweithle. Gallai’r cwrs hwn fod yn sylfaen i nifer o gyrsiau galwedigaethol eraill. Mae’n bosibl, o lwyddo i gwblhau pob cam, i barhau i symud ymlaen drwodd i Lefel 3 a lefel gradd. Mae Diwydiannau Creadigol De Cymru yn chwilio am feddylwyr cadarn creadigol a gallai’r cwrs hwn fod yn gychwyn gyrfa gyffrous.

Nodiadau Pellach

Er nad yw'n hanfodol, gallai portffolio da wella’ch siawns o gael eich derbyn ar y cwrs.

Ymgeisiwch Nawr Gofyn am alwad yn ôl
Manylion y Cwrs
Lefel:Lefel 1
Modd:Llawn Amser
Dyddiad:01/09/2026
Lleoliad:Aberdâr
Cod y Cwrs:9AF110AA
Ffioedd
Ffi Cofrestru Llawn Amser: £15

Sylwch: Mae ffioedd yn daladwy am bob blwyddyn astudio.

Oriel y Cyfryngau
Beth mae Dysgwyr yn ei Ddweud

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

01685 887500

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

01443 662800

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

01443 663202

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

01443 816888
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Porth Dysgwyr a Staff Ap Coleg y Cymoedd Newyddion ADY Gyrfaoedd