Byddwch yn astudio; Unedau sy'n adlewyrchu anghenion y proffesiwn Trin Gwallt a Harddwch. Safonau Cyflogaeth ac Iechyd a Diogelwch, wrth baratoi ymhellach ar gyfer gyrfa yn y sector hwn
Byddwch hefyd yn astudio Sgiliau Hanfodol mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif a Thechnoleg Gwybodaeth.
Mae'r cwrs yn cynnwys gwersi theori ac ymarferol yn seiliedig ar lawer o gyfleoedd i weithio mewn amgylchedd masnachol.
Bydd angen 3 TGAU graddau A*- E yn cynnwys Iaith Saesneg/Cymraeg a Mathemateg /Rhifedd neu gymhwyster cwrs sylfaen yn cynnwys Sgiliau Hanfodol Lefel 3 Mynediad yn ogystal â geirda gan diwtor blaenorol. Efallai gofynnir i chi gwblhau tasg sgiliau ymarferol.
Rydyn ni'n chwilio am ddysgwyr â diddordeb brwd yn y diwydiant Trin Gwallt a Harddwch. Cewch eich gwahodd i gymryd rhan mewn gweithgareddau canllawiau cyn cychwyn y cwrs a fydd yn cynnwys cyflwyniad i'r cwrs. Bydd angen iwnifform a chyfarpar perthnasol ar gyfer y cwrs hwn; darperir rhestr lawn. Bydd gofyn i chi gael eich asesu o ran llythrennedd a rhifedd er mwyn sefydlu a oes angen unrhyw gymorth arnoch chi.
Fe'ch asesir trwy amrywiaeth o ddulliau sy'n cynnwys asesu parhaus, arsylwi eich gwaith ymarferol, cwblhau gwaith portffolio, tystiolaeth theori ac aseiniadau. Ceir arholiadau allanol a phortffolios Sgiliau Hanfodol neu dasgau dan reolaeth hefyd.
Ar ôl cwblhau'r rhaglen hon yn llwyddiannus, byddwch yn gallu symud ymlaen i raglen Therapi Harddwch Lefel 2 neu raglen Trin Gwallt Lefel 2. Argymhellir Lefel 2/3 i gyflawni'ch potensial llawn ar gyfer gofynion proffesiynol y Diwydiant.