Byddwch yn astudio; Unedau sy’n adlewyrchu anghenion y proffesiwn Therapi Harddwch tra’n eich paratoi’n ymhellach ar gyfer fgyrfa yn y sector hwn.
Agweddau sylfaenol Therapi Harddwch i’ch galluogi i helpu’r Therapydd, Safonau Cyflogaeth, Iechyd a Diogelwch, Gwasanaethau Cwsmeriaid. Byddwch hefyd yn astudio Sgiliau Hanfodol mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif a Thechnoleg Gwybodaeth.
Mae’r cwrs yn cynnwys gwersi Therapi Harddwch theori ac ymarferol gyda llawer o gyfleoedd i weithio mewn amgylchedd masnachol.
Bagloriaeth Cymru - byddwch yn ystyried ystod eang o feysydd gan gynnwys sut mae Cymru’n ‘ffitio i mewn’ gydag Ewrop a gweddill y byd a iechyd y genedl a sut i fod yn fentrus.
Bydd angen 3 TGAU graddau A*- E yn cynnwys Iaith Saesneg/Cymraeg a Mathemateg /Rhifedd neu gymhwyster cwrs sylfaen yn cynnwys Sgiliau Hanfodol Lefel 3 Mynediad yn ogystal â geirda gan diwtor blaenorol. Efallai gofynnir i chi gwblhau tasg sgiliau ymarferol.
Rydyn ni'n chwilio am ddysgwyr â diddordeb brwd yn y diwydiant Harddwch. Cewch eich gwahodd i gymryd rhan mewn gweithgareddau canllawiau cyn cychwyn y cwrs a fydd yn cynnwys cyflwyniad i'r cwrs. Bydd angen iwnifform a chyfarpar perthnasol ar gyfer y cwrs hwn; darperir rhestr lawn. Bydd gofyn i chi gael eich asesu o ran llythrennedd a rhifedd er mwyn sefydlu a oes angen unrhyw gymorth arnoch chi.
Defnyddir ystod o ddulliau i asesu’ch gwaith, sy’n cynnwys asesu parhaus drwy arsylwi’ch gwaith ymarferol ar gleientiaid sy'n talu, cwblhau portffolio, tystiolaeth ddamcaniaethol a gwaith aseiniad. Mae arholiadau allanol ar-lein a phortffolios Sgiliau Hanfodol.
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, byddwch yn gallu symud ymlaen i raglen Therapi Harddwch Lefel 2. Er mwyn i chi gyflawni’ch llawn botensial ar gyfer gofynion proffesiynol y diwydiant, argymhellir yn gryf eich bod yn gwneud Lefel 2/3.
TEST ADDITIONAL FEES