Mae'r cwrs hwn ar gael mewn lleoliadau eraill:

Lefel 1 mewn Trin Gwallt

Lluniwyd y cwrs hwn ar gyfer y rhai heb unrhyw brofiad blaenorol o Drin Gwallt er mwyn darparu sail i yrfa yn y proffesiwn Trin Gwallt, proffesiwn cyffrous sy’n ffocysu ar y cwsmer.


Byddwch yn elwa o amrywiaeth o weithgareddau a luniwyd i wneud y gorau o’ch potensial a’ch galluogi i ddefnyddio’ch sgiliau a’ch gwybodaeth i symud ymlaen i gymhwyster Lefel 2 mewn Trin Gwallt.

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Byddwch yn astudio unedau sy’n adlewyrchu anghenion y proffesiwn Trin Gwallt tra’n eich paratoi ymhellach ar gyfer gyrfa yn y sector hwn, Byddwch yn astudio: Agweddau Sylfaenol ar drin gwallt i’ch galuogi i helpu’r cynllunydd gwallt, Safonau Cyflogaeth, Iechyd a Diogelwch, Gwasanaethau Cwsmeriaid, Sgiliau Hanfodol mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif.


Mae’r cwrs yn cynnwys gwersi Trin Gwallt theori ac ymarferol gyda llawer o gyfleoedd i weithio mewn amgylchedd masnachol.

Bagloriaeth Cymru - byddwch yn ystyried ystod eang o feysydd gan gynnwys sut mae Cymru’n ‘ffitio i mewn’ gydag Ewrop a gweddill y byd a iechyd y genedl a sut i fod yn fentrus.
Bydd gofyn i chi hefyd wneud 25+awr o leoliad gwaith; mae hon yn elfen orfodol o’r rhaglen.

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd angen 3 TGAU graddau A*- E yn cynnwys Iaith Saesneg/Cymraeg a Mathemateg /Rhifedd neu gymhwyster cwrs sylfaen yn cynnwys Sgiliau Hanfodol Lefel 3 Mynediad yn ogystal â geirda gan diwtor blaenorol. Efallai gofynnir i chi gwblhau tasg sgiliau ymarferol.


Rydyn ni'n chwilio am ddysgwyr â diddordeb brwd yn y diwydiant Trin Gwallt. Cewch eich gwahodd i gymryd rhan mewn gweithgareddau canllawiau cyn cychwyn y cwrs a fydd yn cynnwys cyflwyniad i'r cwrs. Bydd angen iwnifform a chyfarpar perthnasol ar gyfer y cwrs hwn; darperir rhestr lawn. Bydd gofyn i chi gael eich asesu o ran llythrennedd a rhifedd er mwyn sefydlu a oes angen unrhyw gymorth arnoch chi.

Asesiad

Defnyddir ystod o ddulliau i asesu’ch gwaith, sy’n cynnwys asesu parhaus drwy arsylwi’ch gwaith ymarferol, cwblhau portffolio, tystiolaeth ddamcaniaethol a gwaith aseiniad. Mae arholiadau allanol a phortffolios Sgiliau Hanfodol

Dilyniant Gyrfa

Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, gallech symud ymlaen i raglen Lefel 2 mewn Trin Gwallt. Argymhellir Lefel 2/3 yn gryf er mwyn i chi gyflawni’ch llawn botensial ar gyfer gofynion proffesiynol y diwydiant: Cynllunydd Gwallt Iau, Artist Lliwio Gwallt, Cynllunydd Gwallt yn y Cyfryngau; Cynllunydd Gwallt ar Longau Pleser, Perchennog Salon, Darlithydd a Hyfforddwr/Asesydd.

Nodiadau Pellach

Purchase of Equipment and Kit is required for this course (Compulsory Cost - Uniform - £22, Hairdressing Kit - £156.85). Please discuss this at interview stage with a tutor after you have applied.

Ymgeisiwch Nawr Gofyn am alwad yn ôl
Manylion y Cwrs
Lefel:Level 1
Modd:Full Time
Dyddiad:04/09/2023
Lleoliad:Nantgarw
Cod y Cwrs:7BF101NA
Ffioedd
FT Registration Fee: £15

Sylwch: Mae ffioedd yn daladwy am bob blwyddyn astudio.

Gyrfaoedd y Dyfodol
Beth allech chi ei ennill:
Fel Rheolwyr a pherchnogion siopau trin gwallt a salonau harddwch:
Beth allech chi ei ennill:
Fel Trinwyr gwallt a barbwyr:
Beth mae Dysgwyr yn ei Ddweud
Select Location
Choose Location
Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau