Byddwch yn astudio ar gyfer cymhwyster galwedigaethol a gynlluniwyd i'ch galluogi i ddechrau gweithio yn un o ganghennau amrywiol y diwydiant gwerthu moduron.
Mae'r cwrs yn cynnwys: Tasgau Ymarferol yn ymwneud â Cherbydau Modur, Theori a addysgir gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau, e.e. darlithoedd, sesiynau tiwtorial ac ymchwiliadau. Mae’n bosibl y bydd ymweliadau diwydiannol/addysgol sy'n gysylltiedig â Cherbydau Modur yn rhan o’r rhaglen a bydd Dysgwyr yn defnyddio rhai o'r offer diweddaraf, o'r radd flaenaf i’w cynorthwyo yn eu proses ddysgu. Byddwch yn astudio sawl uned sy'n cynnwys tynnu, profi ac ailosod unedau a chydrannau/eitemau gwasanaeth. Mae'r profiad ymarferol yn unig yn amhrisiadwy i ddarpar gyflogwyr.
Bydd angen 3 TGAU graddau A*- E yn cynnwys Mathemateg/Rhifedd as Iaith Saesneg/Cymraeg (Mamiaith) neu gymhwyster lefel mynediad mewn Astudiaethau Modurol.
Asesir drwy brofion gwybodaeth ar-lein a phortffolio ar sail gweithdy, lle byddwch yn cofnodi manylion yr asesiadau gwaith a gynhaliwyd.
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, byddwch yn gallu gwneud cais am wahanol swyddi yn y diwydiant moduron. Gall hefyd fod yn gam cyntaf i chi ar eich ffordd efallai i astudio Diploma Uwch Cenedlaethol neu Radd mewn pynciau Modurol megis peirianneg moduron rasio. Cynhelir cyrsiau dilyniant ar gampws Ystrad Mynach mewn adeilad pwrpasol newydd, lle gallwch wneud cais i astudio am gymhwyster Lefel 2 (yn amodol ar asesiad theori ac ymarferol)
You will be required to purchase Uniform (T Shirt and Trousers), safety boots & safety glasses (approx £55). Please discuss this at interview stage with a tutor after you have applied.