Drwy gydol y cwrs, byddwch yn astudio amrywiaeth o bynciau deniadol gan gynnwys y canlynol:: • Gyrfaoedd ym maes Gwasanaeth Cyhoeddus • Gwella Iechyd a ffitrwydd ar gyfer Mynediad i Wasanaethau Cyhoeddus mewn Lifrai • Sgiliau Personol ar gyfer y Gwasanaethau Cyhoeddus • Gwaith Ymarferol Tîm ym maes Gwasanaeth Cyhoeddus • Darllen Mapiau gan ddefnyddio Mapiau Arolwg Ordnans • Ymchwiliad Safle Trosedd
Hefyd, byddwch yn datblygu sgiliau hanfodol mewn llythrennedd, rhifedd a llythrennedd digidol, gyda chyfleoedd i wella eich graddau TGAU os oes angen.
3 TGAU gradd E neu’n uwch (gan gynnwys Mathemateg a Saesneg Iaith neu Cymraeg Iaith Gyntaf Iaith gyntaf), neu gymwysterau lefel Mynediad cyfwerth
Er mwyn cyflawni Lefel 1 mewn Gwasanaethau Cyhoeddus, rhaid i chi gwblhau asesiad mewnol ymhob uned. Ymhlith y dulliau asesu mae’r canlynol: • Sgiliau Ymarferol • Cwestiynau Llafar • Gwaith Aseiniad • Cwestiynau Ysgrifenedig Caiff pob uned eu hasesu a’u graddio, yn arwain yn y pen draw at radd gyffredinol ar gyfer y cymhwyster.
Ar ôl cwblhau'r cwrs yma’n llwyddiannus ac ennill gradd teilyngdod, efallai y bydd modd i chi symud ymlaen i Ddiploma Estynedig BTEC Lefel 2 mewn Gwasanaethau Cyhoeddus.
Mae’n ofynnol prynu Cit a/neu dalu am Ymweliadau Addysgu ar gyfer y cwrs hwn. Trafodwch hyn gyda thiwtor yn ystod y cyfnod cyfweld i ddatblygu pecyn wedi’i deilwra ar sail eich dewis o gwrs.







