Lluniwyd cwrs drwy ymgynghori gyda chynrychiolwyr o’r diwydiant teithio a’r colegau. Ei fwriad ydy delio â’r meysydd hynny mae cyflogwyr yn y sector teithio a thwristiaeth wedi’u nodi bod angen staff wedi eu cymhwyso’n briodol.
Byddwch yn mwynhau ystod eang o weithgareddau ar y cwrs gan gynnwys ymweliadau, siaradwyr gwadd a defnydd o gyfleusterau ar y safle ac oddi arno. Byddwch yn astudio amrywiaeth o unedau ac yn ymdrin â phynciau fel Cyrchfannau Teithio a Thwristiaeth Byd-eang, Cyfathrebu yn y Gweithle, Meysydd Awyr, Cwmnïau Hedfan, Criw Caban, Gweithio mewn Tîm, Gwasanaethau Cwsmeriaid a Gwyliau Pecyn.
Bydd angen 3 TGAU graddau A*- E yn cynnwys Mathemateg a Saesneg/Cymraeg, neu gwblhau rhaglen alwedigaethol lawn ar Fynediad 3 ddylai hefyd gynnwys TGAU graddau A*- E yn cynnwys Mathemateg a Saesneg/Cymraeg neu gyfwerth fel Mynediad 3 Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif.
Cewch eich gwahodd i fynychu cyfweliad ac asesir eich sgiliau llythrennedd a rhifedd er mwyn sefydlu a oes angen cymorth arnoch chi.
Rhaid i chi gwblhau amrediad o asesiadau ysgrifenedig ac ymarferol. Bydd yr asesiadau’n cynnwys sgiliau ymarferol, cwestiynau llafar, gwaith aseiniad a chwestiynau ysgrifenedig. Byddwch yn derbyn adborth am eich cynnydd drwy gydol y cwrs.
Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, efallai y gallech symud ymlaen i wneud Tystysgrif Lefel 2 BTEC mewn gwaith Criw Gweini mewn Awyren neu Ddiploma Lefel 2 Teithio a Thwristiaeth.