Byddwch yn astudio ystod o unedau, sy’n cynnwys: datblygu gwybodaeth ddigidol gan ddefnyddio TG; datrys problemau technegol, creu gwefan, creu rhaglen gyfrifiadurol, ymchwilio i bwnc, gweithio gyda phobl eraill a defnyddio technolegau cyfathrebu digidol.
Bydd angen 3 TGAU graddau A*- E yn cynnwys Mathemateg/Rhifedd a Iaith Saesneg/Cymraeg (Mamiaith) neu gwblhau cymhwyster Cwrs Sylfaen Mynediad 3 yn llwyddiannus.
Cynhelir yr holl ddysgu yn ein hystafelloedd dosbarth a'n gweithdai TG modern llawn offer. Byddwch yn sefyll asesiad ym mhob uned, drwy ystod o weithgareddau, gan gynnwys aseiniadau, chwarae rôl, perfformiad ymarferol a chyflwyniadau llafar. Er nad oes unrhyw arholiadau ffurfiol, bydd disgwyl ichi weithio o fewn terfynau amser a chynnal ffeiliau/portffolios eich cwrs i'r safonau gofynnol.
Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, efallai y byddwch yn gymwys i symud ymlaen i Gyfrifiadureg a TG Creadigol Lefel 2.