Byddwch yn astudio 10 uned wahanol dros y cwrs blwyddyn hwn gan ennill Diploma BTEC Lefel 1 mewn Celfyddydau Perfformio. Nod yr uned ydy cynnig gwybodaeth drylwyr i chi o gydweithio’n llwyddiannus, ymarfer a chymryd rhan mewn amrywiaeth o gynyrchiadau theatrig.
Nod y cwrs ydy datblygu’ch sgiliau ymarferol ymhob maes o’r sector Celfyddydau Perfformio; canu, dawnsio ac actio. Mae’r cwrs yn ceisio datblygu’ch sgiliau dawnsio a’ch sgiliau symudiadau, gan ddysgu sut i baratoi ar gyfer perfformiad ac arddulliau dawns megis Jazz, Cyfoes a Bale. Ynghyd â dawns, cewch wersi actio i ddatblygu’ch sgiliau perfformio ymhellach. Byddwch yn cymryd rhan mewn 3 pherfformiad yn ystod y flwyddyn a darn o theatr ddyfeisiedig, perfformiad o ddrama gan Shakespeare a chynhyrchiad o Sioe Gerdd ar ddiwedd y flwyddyn. Mae’r cwrs ymarferol hwn yn addo cynnig rhagarweiniad cyffrous i chi i gyrsiau Celfyddydau Perfformio yn Ngholeg y Cymoedd. Byddwch yn cymryd rhan mewn 3 pherfformiad yn ystod y flwyddyn, ynghyd â darn o theatr ddyfeisiedig, perfformiad o ddrama gan Shakespeare a chynhyrchiad o Sioe Gerdd ar ddiwedd y flwyddyn. Mae’r cwrs ymarferol hwn yn addo cynnig rhagarweiniad cyffrous i chi i gyrsiau Celfyddydau Perfformio yn Ngholeg y Cymoedd.
Bydd angen 3 TGAU gradd E neu’n uwch arnoch chi (gan gynnwys Mathemateg a Saesneg neu Cymraeg (Mamiaith) neu gymhwyster Lefel Mynediad.
Cewch eich asesu ar ddiwedd pob uned drwy gydol y cwrs a does dim arholiadau furfiol.
Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus a geirda tiwtor personol, bydd y cymhwyster creadigol hwn yn eich galluogi i arbenigo mewn cwrs Lefel 2 o’ch dewis o fewn y diwydiannau creadigol neu byddwch yn gallu trosglwyddo’ch sgiliau personol a chyflogadwyedd i’r gweithle. Gallai’r cwrs fod yn sail ar gyfer nifer o gyrsiau galwedigaethol eraill. Mae’n bosibl symud ymlaen ymhellach i Lefel 3 a lefel gradd o gwblhau pob cam yn llwyddiannus. Mae Diwydiannau Creadigol De Cymru yn chwilio am berfformwyr creadigol cadarn a gallai’r cwrs hwn fod yn gychwyn ar yrfa gyffrous.
Ffi’r cwrs - £75.00











