Mae'r cwrs hwn ar gael mewn lleoliadau eraill:

Lefel 2 mewn Therapi Harddwch

Prif nod Diploma Lefel 2 VTCT mewn Therapi Harddwch yw eich paratoi ar gyfer sector penodol a rôl benodol. Mae holl unedau’r cymhwyster hwn yn ymwneud yn uniongyrchol â rôl therapydd harddwch iau. Mae'n gwrs dwys, a fydd yn rhoi'r holl sgiliau sydd eu hangen arnoch i symud ymlaen i gymhwyster Lefel 3 a gweithio yn y diwydiant hynod werth chweil a difyr hwn.


Mae Diploma Lefel 2 VTCT mewn Therapi Harddwch yn gymhwyster galwedigaethol sylweddol i ddysgwyr sy'n ceisio gyrfa fel therapydd harddwch iau. Cynlluniwyd y cymhwyster hwn ar gyfer dysgwyr 16 oed neu'n hyn a bydd yn eich cefnogi i sicrhau gwaith fel therapydd harddwch iau, gan fod unedau’r cymhwyster hwn yn cwmpasu'r holl sgiliau a gwybodaeth sydd eu hangen yn y rôl hon.

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Byddwch yn astudio: Gofal croen wyneb, cwyro, triniaethau blew amrannau ac aeliau, triniaethau dwylo, triniaethau traed, gofal cleientiaid ac iechyd a diogelwch fel unedau gorfodol. Er mwyn gwella'ch cyflogaeth a'ch astudiaethau ymhellach, rydym wedi dewis unedau gorfodol ychwanegol yn ofalus gan gynnwys technegau lliw haul chwistrell, dyletswyddau derbynfa ac arddangos stoc i hyrwyddo gwerthiant.


Byddwch yn astudio Anatomeg a Ffisioleg ochr yn ochr â'r unedau ymarferol hyn. Mae arholiadau a osodir yn allanol ar gyfer pob un o'r unedau hyn. Hefyd, byddwn yn cynnig cyfleoedd ichi wella'ch sgiliau ymhellach gyda chyrsiau ychwanegol a fydd yn ddewisol ac yn dibynnu ar eich dilyniant a'ch datblygiad. Bydd eich holl astudiaethau yn cael eu cynnal mewn salon go iawn a bydd disgwyl ichi weithio ar gleientiaid allanol, ac ar eich gilydd. Bydd eich asesiadau ymarferol yn digwydd yn y salonau, a bydd darparu eich cleientiaid eich hun ar gyfer asesiadau yn eich helpu i’w cyflawni. Ymgymerir ag elfennau damcaniaethol y cymhwyster hwn gydag arholiadau a osodir yn allanol, yn seiliedig ar ofynion anatomeg a ffisioleg y maes astudio, a'r elfennau ymarferol hefyd. Hefyd, bydd gofyn ichi astudio cymhwyster Sgiliau Hanfodol Cymru mewn naill ai Rhifedd/Llythrennedd/Llythrennedd Digidol neu TGAU, ochr yn ochr â Harddwch, sy’n ofyniad gorfodol.

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd angen 4 TGAU graddau A*- D yn cynnwys iaith Saesneg/Cymraeg a Mathemateg/Rhifedd neu gymhwyster Lefel 1 cwrs sgiliau sector yn cynnwys Sgiliau Hanfodol Lefel 1 yn ogystal â geirda gan gyflogwr a/neu diwtor blaenorol. Efallai bydd gofyn i chi gwblhau tasg sgiliau ymarferol.


Rydyn ni'n chwilio am ddysgwyr â diddordeb brwd yn y diwydiant Gwaith Barbwr. Cewch eich gwahodd i gymryd rhan mewn gweithgareddau canllawiau cyn cychwyn y cwrs a fydd yn cynnwys cyflwyniad i'r cwrs. Bydd angen iwnifform a chyfarpar perthnasol ar gyfer y cwrs hwn; darperir rhestr lawn. Efallai gofynnir i chi arddangos eich sgiliau ymarferol a'ch dawn er mwyn sicrhau mai symud o L2 i L23 ydy'r llwybr cywir i chi a'ch dyheadau gyrfaol.

Asesiad

Byddwch yn cael eich asesu ar eich sgiliau ymarferol yn ein salon go iawn ar gleientiaid allanol. Disgwylir ichi gyflawni'r 10 arholiad a osodir yn allanol. Byddwch yn creu portffolio o dystiolaeth yn ystod eich astudiaethau. Hefyd, byddwch yn astudio cymhwyster Sgiliau Hanfodol Cymru.

Dilyniant Gyrfa

Therapi Harddwch L3, Technoleg Ewinedd L3, Argymhellir y rhain yn gryf i gyflawni'ch llawn botensial ar gyfer gofynion proffesiynol y diwydiant, neu i geisio cyflogaeth yn y sector.

Nodiadau Pellach

Purchase of Equipment and Kit is required for this course (Compulsory Cost - Uniform - £35, Beauty Kit - £111.55, Text Book - £25) (Suggested Optional - Additional Kit £15.87 / £11.56 / £14.28). Please discuss this at interview stage with a tutor after you have applied.

Ymgeisiwch Nawr Gofyn am alwad yn ôl
Manylion y Cwrs
Lefel:Lefel 2
Modd:Llawn Amser
Dyddiad:02/09/2024
Lleoliad:Nantgarw
Cod y Cwrs:7BF203NA
Ffioedd
Ffi Cofrestru Llawn Amser: £15

Sylwch: Mae ffioedd yn daladwy am bob blwyddyn astudio.

Gyrfaoedd y Dyfodol
Beth allech chi ei ennill:
Fel Rheolwyr a pherchnogion siopau trin gwallt a salonau harddwch:
Beth allech chi ei ennill:
Fel Harddwyr a galwedigaethau cysylltiedig:
Beth allech chi ei ennill:
Fel Rheolwyr a pherchnogion siopau trin gwallt a salonau harddwch:
Beth allech chi ei ennill:
Fel Harddwyr a galwedigaethau cysylltiedig:
Beth mae Dysgwyr yn ei Ddweud
Select Location

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau