Mae Tystysgrif mewn Cyfrifeg yn cynnwys: Rhagarweiniad i gadw Cyfrifon ac Egwyddorion rheolaethau Cadw Cyfrifon, sy’n cynnig sail i chi mewn cyfrifeg ariannol; Egwyddorion Costio, yn delio â hanfodion sylfaenol paratoi gwybodaeth costio a ddefnyddir mewn Cyfrifyddu Rheoli; a'r Amgylchedd Busnes, rhagarweiniad i agweddau ehangach busnes a'r economi.
Does dim gofynion ffurfiol ar gyfer mynediad ond cewch wahoddiad i fynychu cyfweliad.
Cewch eich gwahodd i fynychu cyfweliad a chewch eich asesu mewn llythrennedd a rhifedd er mwyn sefydlu a oes angen unrhyw gymorth arnoch chi. Yng Ngholeg y Cymoedd, byddem yn eich annog i wneud eich gorau glas yn eich asesiadau. Po uchaf ydy’ch graddau, gwell fydd eich opsiynau a gallai olygu eich bod yn cael mynediad i gwrs uwch ei lefel.
Defnyddir Asesiadau a luniwyd gan AAT ar Gyfrifiadur i asesu pob maes dysgu’r cymhwyster hwn.
Bydd cwblhau Tystysgrif Lefel 2 mewn Cyfrifeg yn llwyddiannus yn caniatáu i chi symud ymlaen i gwrs Diploma Lefel 3 mewn Cyfrifeg.