Mae'r cwrs hwn ar gael mewn lleoliadau eraill:

Lefel 2 AAT mewn Cyfrifeg

Mae cymhwyster cyfrifeg yr AAT yn rhoi sgiliau ymarferol, sgiliau ariannol a chyfrifyddeg a gydnabyddir yn rhyngwladol i chi, sgiliau a all agor drysau i chi yn y diwydiant ar hyd a lled y byd. Gallwch astudio ar gyrsiau dydd neu ar gyrsiau nos. Mae’r cymhwyster hwn yn fras gyfwerth â graddau A-C TGAU.


Cymhwyso gydag AAT ydy’ch llwybr i: • Aelodaeth broffesiynol o AAT (Cymdeithas Technegwyr Cyfrifyddeg) • Gyrfa ym maes cyllid, yn ennill hyd at 15% yn fwy na staff heb gymwysterau • Cyfrifyddeg siartredig • Gradd prifysgol • Gweithio dramor Ewch ar wefan AAT am wybodaeth bellach – www.aat.org.uk Sylwch: Mae cost aelodaeth AAT yn ychwanegol at ffioedd y cwrs ac mae'n cael ei dalu gan y dysgwr.

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Mae Tystysgrif mewn Cyfrifeg yn cynnwys: Rhagarweiniad i gadw Cyfrifon ac Egwyddorion rheolaethau Cadw Cyfrifon, sy’n cynnig sail i chi mewn cyfrifeg ariannol; Egwyddorion Costio, yn delio â hanfodion sylfaenol paratoi gwybodaeth costio a ddefnyddir mewn Cyfrifyddu Rheoli; a'r Amgylchedd Busnes, rhagarweiniad i agweddau ehangach busnes a'r economi.


Beth fydda i'n ei ddysgu?

Oherwydd natur heriol arholiadau AAT bydd angen un o'r canlynol arnoch i ymuno â'r cwrs: TGAU Cymraeg Iaith Gyntaf neu Saesneg Iaith a TGAU Mathemateg neu Rifedd graddau A*-C Bod yn gweithio mewn neu wedi gweithio mewn rôl Gyfrifeg/Cyllid am o leiaf dri mis Sefyll a phasio asesiad mynediad (a gynlluniwyd i asesu eich gallu Saesneg ysgrifenedig a chyfrifo syml).


Cewch eich gwahodd i fynychu cyfweliad a chewch eich asesu mewn llythrennedd a rhifedd er mwyn sefydlu a oes angen unrhyw gymorth arnoch chi. Yng Ngholeg y Cymoedd, byddem yn eich annog i wneud eich gorau glas yn eich asesiadau.

Asesiad

Defnyddir Asesiadau a luniwyd gan AAT ar Gyfrifiadur i asesu pob maes dysgu’r cymhwyster hwn.

Dilyniant Gyrfa

Bydd cwblhau Tystysgrif Lefel 2 mewn Cyfrifeg yn llwyddiannus yn caniatáu i chi symud ymlaen i gwrs Diploma Lefel 3 mewn Cyfrifeg.

Ymgeisiwch Nawr Gofyn am alwad yn ôl
Manylion y Cwrs
Lefel:Lefel 2
Modd:Rhan Amser Day
Dyddiad:07/09/2026
Dyddiau:Part Time - To be arranged
Amser:09:00 - 16:00
Lleoliad:Ystrad Mynach
Cod y Cwrs:15P205YA
Ffioedd
Examination Fee: £300
Tuition Fee: £582

Sylwch: Mae ffioedd yn daladwy am bob blwyddyn astudio.

Beth mae Dysgwyr yn ei Ddweud
Select Location

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

01685 887500

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

01443 662800

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

01443 663202

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

01443 816888
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Porth Dysgwyr a Staff Ap Coleg y Cymoedd Newyddion ADY Gyrfaoedd