Lefel 2 Celf a Dylunio

Ein nod ydy cynnig i chi y sgiliau, y wybodaeth a'r hyder sydd eu hangen arnoch chi i lwyddo symud ymlaen i AU a gyrfa mewn diwydiant sy’n gofyn llawer gennych chi. Rydyn ni yng Ngholeg y Cymoedd yn ymdrin â materion megis myfyrwyr yn symud i astudiaethau pellach neu i yrfa ym maes celf a dylunio gydag ystod eang o unedau diddorol a chreadigol i chi eu harchwilio yn amrywio o ddylunio cymeriad, darluniadau, tecstilau, 3D, cerfio, celf gain, graffeg, ffotograffiaeth, lluniadu a phaentio a llawer o unedau eraill ar lefel 2 a 3.


Mae ein tîm Celf a Dylunio yn brofiadol iawn ac yn frwd dros greadigrwydd ac addysg. Gyda’u gwybodaeth helaeth a’u arbenigedd addysgu yn ogystal â phrofiad o asesu, gallwch fod yn siwr eu bod wedi ymroi i’ch helpu i wireddu eich breuddwydion, eich uchelgais a chyflawni’ch potensial llawn.

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Mae ein darpariaeth Celf a Dylunio lefel 2 a 3, sydd wedi hen ennill eu plwyf ac wedi’u lleoli ar Gampws Nantgarw, yn cynnig y cyfle i chi ddatblygu ac archwilio ystod o sgiliau a dod i ddeall defnydd ymarferol Celf a Dylunio gyda phwyslais cadarn ar waith ymarferol, ond mae theori yn parhau i fod yn faes pwysig o'r cwrs.


Yn gyntaf, rydyn ni’n cynnig cwrs blwyddyn Diploma Lefel 2, cyfwerth â 4 TGAU. Rydyn ni hefyd yn cynnig cwrs Diploma 2 flynedd sy’n cyfateb i 3 Lefel A a phwyntiau cyfatebol UCAS. Dyfernir y ddau gymhwyster a’u hardystio gan ‘OCR – Oxford & Cambridge’, RSA ac mae’n galluogi myfyrwyr sy’n cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus i ddilyn llwybr uniongyrchol i gwrs Addysg Uwch mewn Coleg neu Brifysgol o’u dewis neu i gyflogaeth.

Beth fydda i'n ei ddysgu?

4 TGAU gradd D neu uwch (yn cynnwys Mathemateg a Saesneg neu Gymraeg Mamiaith) neu gymwysterau lefel 1 cyfatebol.

Asesiad

Asesir pob uned yn fewnol a’u safoni’n allanol ac ar ôl cwblhau’r cymhwyster yn llwyddiannus dyfernir gradd drwyddi draw o pas, teilyngdod neu ragoriaeth.

Dilyniant Gyrfa

Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, ac ennil gradd teilyngdod, gallwch wneud cais am gyrsiau Diploma Lefel 3 mewn Celf a Dylunio

Nodiadau Pellach

Rydyn ni’n gofyn am ffi stiwdio o £80 ar gyferf cit celf ac adnoddau perthnasol i’r cwrs. Trafodwch hyn adeg y cyfweliad gyda thiwtor ar ôl i chi wneud cais.

Ymgeisiwch Nawr Gofyn am alwad yn ôl
Manylion y Cwrs
Lefel:Lefel 2
Modd:Llawn Amser
Dyddiad:01/09/2026
Lleoliad:Nantgarw
Cod y Cwrs:9BF202NA
Ffioedd
Ffi Cofrestru Llawn Amser: £15
Studio Fee: £84

Sylwch: Mae ffioedd yn daladwy am bob blwyddyn astudio.

Oriel y Cyfryngau
Beth mae Dysgwyr yn ei Ddweud

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

01685 887500

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

01443 662800

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

01443 663202

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

01443 816888
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Porth Dysgwyr a Staff Ap Coleg y Cymoedd Newyddion ADY Gyrfaoedd