Dyfarniad Lefel 2 mewn Triniaeth Dwylo

Mae'r cymhwyster hwn yn ymwneud â darparu gwasanaethau dwylo i gleientiaid. Mae'n cynnwys ymgynghori â'r cleient, nodi unrhyw wrth-arwyddion, paratoi ar gyfer y gwasanaeth a llunio cynllun gwasanaeth. Mae hefyd yn cwmpasu ffeilio a bwffio’r ewinedd, gan ddefnyddio triniaethau croen a chwtigl, tylino'r llaw a hanner isaf y fraich a darparu gorffeniad ewinedd addas.

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Prif ganlyniadau'r cymhwyster ydy:


Cynnal dulliau diogel ac effeithiol o weithio wrth ddarparu gwasanaethau dwylo | Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer y gwasanaeth dwylo | Cynnal gwasanaethau dwylo | Darparu cyngor ôl-ofal.

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Ni fydd angen i chi feddu ar unrhyw gymwysterau ffurfiol cyn astudio ar gyfer y cymhwyster hwn er efallai y gofynnir i chi gwblhau tasg sgiliau ymarferol.


Rydyn ni'n chwilio am ddysgwyr â diddordeb brwd yn y diwydiant Harddwch. Cewch eich gwahodd i gymryd rhan mewn gweithgareddau canllawiau cyn cychwyn y cwrs a fydd yn cynnwys cyflwyniad i'r cwrs. Mae angen iwnifform a chyfarpar perthnasol ar gyfer y cwrs hwn; darperir rhestr lawn.

Asesiad

Bydd eich asesydd yn arsylwi ar eich perfformiad o dasgau ymarferol. Nodir y nifer lleiaf o arsylwadau sydd eu hangen yn adran gofynion tystiolaeth yr uned hon. Efallai na fydd meini prawf bob amser yn digwydd yn naturiol yn ystod arsylwi ymarferol. Mewn achosion o'r fath, gofynnir cwestiynau i chi i ddangos eich cymhwysedd yn y maes hwn. Bydd eich asesydd yn cofnodi’r meini prawf a gyflawnwyd drwy holi llafar ac ysgrifenedig. Bydd papurau cwestiynau a aseswyd yn allanol ac a gwblhawyd yn electronig yn cael eu gosod a'u marcio gan VTCT.

Dilyniant Gyrfa

Ar ôl cwblhau'r cymhwyster hwn, gallwch ddewis ymgymryd ag astudiaeth bellach; mae’r cymwysterau y gallech symud ymlaen i'w hastudio yn cynnwys : Diploma NVQ VTCT Lefel 2 mewn Therapi Harddwch Cyffredinol, Diploma NVQ Lefel 2 VTCT mewn Gwasanaethau Ewinedd, Dyfarniad VTCT L3 mewn Gwella Golwg Ewinedd gan ddefnyddio Hylif a Phowdwr

Nodiadau Pellach

Mae angen i chi gael Gwisg Salon, cit cyfarpar cwrs a thalu ffioedd salon ar gyfer y cwrs hwn. Bydd amcan-gostau, manylion ar gyfer archebu/talu a chais posibl am gymorth/cefnogaeth ariannol yn cael eu trafod ynr y cyfweliad, a'u cadarnhau ar ôl derbyn dyfynbrisiau cyflenwyr

Ymgeisiwch Nawr Gofyn am alwad yn ôl
Manylion y Cwrs
Lefel:Lefel 2
Modd:Rhan Amser Evening
Dyddiad:01/09/2026
Dyddiau:Tuesday
Amser:17:30 - 20:30
Lleoliad:Nantgarw
Cod y Cwrs:7BE220NA
Ffioedd
Registration Fee: £54
Tuition Fee: £152

Sylwch: Mae ffioedd yn daladwy am bob blwyddyn astudio.

Beth mae Dysgwyr yn ei Ddweud

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

01685 887500

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

01443 662800

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

01443 663202

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

01443 816888
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Porth Dysgwyr a Staff Ap Coleg y Cymoedd Newyddion ADY Gyrfaoedd