Defnyddio braslunio cymhleth a chyfyngiadau 2D i greu nodweddon Sut i greu a golygu nodweddion gwaith a defnyddio gorchmynion nodweddion cymhleth
Sut i greu ac addasu rhannau ‘table driven’ syml a chydosodiadau Defnyddio cyfyngiadau mudiant a chyfosod gyriedig Sut i ychwanegu anodiadau i luniad Sut i greu cyflwyniadau o rannau a chydosodiadau o safon addas i arddangosfeydd
Efallai bod gennych beth profiad mewn cyfrifiaduraeth, o bosb mewn gweithgynhyrchu neu ddylunio peirianneg, ac yn awyddus i ymestyn eich gwybodaeth a gwella’ch sgiliau a symud ymlaen yn eich gyrfa. Rydych eisoes wedi cwblhau cymhwyster Lefel 1.
Asesir y cwrs drwy'r canlynol: Dau aseiniad yn y dosbarth yn delio â’r sgiliau ymarferol a ddatblygwyd drwy gydol y flwyddyn Un prawf aml-ddewis ar-lein GOLA yn delio â’r wybodaeth sylfaenol sydd ei hangen.
Gall y cwrs eich helpu i ddod o hyd i waith mewn ystod o swyddi gan gynnwys: Technegydd CAD Rhaglennydd CAD/CAM Gweithiwr Peiriant CNC Dylunydd Peirianneg Gall y cymhwyster hwn hefyd arwain at astudiaeth bellach ar lefel uwch.