Mae'r cwrs hwn ar gael mewn lleoliadau eraill:

Tystysgrif Lefel 2 mewn Sgiliau Cwnsela

Mae’r cwrs hwn yn bennaf ar gyfer dysgwyr â phrofiad helaeth o fywyd sy'n meddu neu heb gael hyfforddiant blaenorol mewn sgiliau cwnsela. Nod y cwrs ydy darparu rhagarweiniad cynhwysfawr i gwnsela fel galwedigaeth drwy ddysgu a datblygu sgiliau cwnsela, theori cwnsela sylfaenol a’r materion moesegol sydd yn codi yn y maes hwn.


Byddai’r cwrs hwn o ddiddordeb i’r rhai sy’n bwriadu gwella’u swyddogaeth gwaith drwy gyrraedd hyfedredd ar draws ystod o sgiliau cwnsela a hefyd am symud ymlaen i lefel ymarferwr ym maes cwnsela ac sy’n ystyried bod caffael sgiliau ac ymarfer yn sylfaen gadarn ar gyfer cychwyn eu hyfforddiant. Dydy’r dyfarniad hwn DDIM yn golygu bod y dysgwr yn ennill cymhwyster proffesiynol nac yn rhoi’r hawl iddo/iddi gwnsela yn broffesiynol.

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Prif nod y dyfarniad hwn, ar ôl ei gwblhau fydd eich galluogi i ddefnyddio ystod o sgiliau cwnsela gyda bwriad, i ddeall pwysigrwydd defnyddio sgiliau cwnsela yn foesegol ac yn unol â Fframwaith Moeseg ar gyfer Arfer Dda Cymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain a chael mynediad i gyfleoedd symud ymlaen mewn swydd a / neu addysg bellach / hyfforddiant.


Beth fydda i'n ei ddysgu?

Does dim gofynion ffurfiol ond rhaid bod gan y dysgwyr y gallu i gynhyrchu aseiniadau ysgrifenedig (gwaith ar brosesydd geiriau) a chymryd rhan mewn gweithgareddau asesu sgiliau ymarferol.


Cewch eich gwahodd i fynychu cyfweliad.

Asesiad

Asesir yn barhaus drwy gydol y flwyddyn gan ddefnyddio gwahanol ddulliau asesu fydd yn cynnwys dyddlyfr wythnosol, asesiadau o sgiliau ymarferol a phrawf ysgrifenedig ar ddiwedd y flwyddyn academaidd.

Dilyniant Gyrfa

Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus bydd gennych y sgiliau a’r cymhwyster i ddefnyddio sgiliau cwnsela yn ddigonol mewn nifer o sefyllfaoedd gan gynnwys y proffesiynau gofal, addysgu, gwaith ieuenctid, mentora ayb. Mae’r cwrs hwn yn rhan o lwybr dilyniant, yn eich galluogi i symud ymlaen i gwrs Tystysgrif Lefel 3 mewn Astudiaethau Cwnsela ac yna ymhellach i gwrs Diploma Lefel 4 mewn Cwnsela Therapiwtig a thu hwnt.

Ymgeisiwch Nawr Gofyn am alwad yn ôl
Manylion y Cwrs
Lefel:Lefel 2
Modd:Rhan Amser Evening
Dyddiad:02/09/2024
Dyddiau:Tuesday
Amser:17:30 - 20:30
Lleoliad:Aberdâr
Cod y Cwrs:01E204AA
Ffioedd
Registration Fee: £214
Tuition Fee: £267

Sylwch: Mae ffioedd yn daladwy am bob blwyddyn astudio.

Gyrfaoedd y Dyfodol
Beth allech chi ei ennill:
Fel Seicolegwyr:
Beth allech chi ei ennill:
Fel Cwnselwyr:
Beth mae Dysgwyr yn ei Ddweud

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau