Prif nod y dyfarniad hwn, ar ôl ei gwblhau fydd eich galluogi i ddefnyddio ystod o sgiliau cwnsela gyda bwriad, i ddeall pwysigrwydd defnyddio sgiliau cwnsela yn foesegol ac yn unol â Fframwaith Moeseg ar gyfer Arfer Dda Cymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain a chael mynediad i gyfleoedd symud ymlaen mewn swydd a / neu addysg bellach / hyfforddiant.
Does dim gofynion ffurfiol ond rhaid bod gan y dysgwyr y gallu i gynhyrchu aseiniadau ysgrifenedig (gwaith ar brosesydd geiriau) a chymryd rhan mewn gweithgareddau asesu sgiliau ymarferol.
Cewch eich gwahodd i fynychu cyfweliad.
Asesir yn barhaus drwy gydol y flwyddyn gan ddefnyddio gwahanol ddulliau asesu fydd yn cynnwys dyddlyfr wythnosol, asesiadau o sgiliau ymarferol a phrawf ysgrifenedig ar ddiwedd y flwyddyn academaidd.
Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus bydd gennych y sgiliau a’r cymhwyster i ddefnyddio sgiliau cwnsela yn ddigonol mewn nifer o sefyllfaoedd gan gynnwys y proffesiynau gofal, addysgu, gwaith ieuenctid, mentora ayb. Mae’r cwrs hwn yn rhan o lwybr dilyniant, yn eich galluogi i symud ymlaen i gwrs Tystysgrif Lefel 3 mewn Astudiaethau Cwnsela ac yna ymhellach i gwrs Diploma Lefel 4 mewn Cwnsela Therapiwtig a thu hwnt.