Yn ystod y cwrs hwn byddwch yn datblygu ystod o sgiliau gan gynnwys:
• Rhoi Colur
• Celfyddyd Gwallt
• Egwyddorion ymchwilio, cynllunio ac arddangos dyluniadau.
• Celfyddyd colur creadigol
Bydd angen 4 TGAU graddau A*- D yn cynnwys Iaith Saesneg/Cymraeg a Mathemateg/Rhifedd neu gymhwyster cwrs sgiliau sector Lefel 1 yn cynnwys Sgiliau Hanfodol Lefel 1, yn ogystal â geirda gan gyflogwr a/neu diwtor blaenorol. Hefyd, efallai bydd gofyn i chi gwblhau tasg sgiliau ymarferol.
Rydyn ni'n chwilio am ddysgwyr â diddordeb brwd yn y diwydiant Trin Gwallt, Harddwch a Choluro. Cewch eich gwahodd i gymryd rhan mewn gweithgareddau canllawiau cyn cychwyn y cwrs a fydd yn cynnwys cyflwyniad i'r cwrs. Bydd angen iwnifform a chyfarpar perthnasol ar gyfer y cwrs hwn; darperir rhestr lawn. Bydd gofyn i chi gael eich asesu o ran llythrennedd a rhifedd er mwyn sefydlu a oes angen unrhyw gymorth arnoch chi. Cewch eich gwahodd i arddangos eich sgiliau ymarferol a'ch dawn er mwyn sicrhau mai hwn ydy'r llwybr ar eich cyfer chi a'ch dyheadau gyrfaol.
Rhaid i fyfyrwyr gael eu hasesu o dan amodau arholiad yn ogystal ag asesu parhaus ar gyfer gwaith cwrs.
Mae'r cwrs yn cynnig cyfleoedd dilyniant i Ddiploma lefel 3 mewn Colur yng Nghyfryngau’r Celfyddydau Cynhyrchu. Hefyd, rydym yn cynnig cyfleoedd i symud ymlaen i Addysg Uwch yng Ngholeg y Cymoedd trwy’r HND lefel 4/5 yn y Celfyddydau Cynhyrchu Creadigol (Llwybr Colur) a’r BA (Anrh) Teledu a Ffilm lefel 6: Gwallt, Colur ac Effeithiau Arbennig (Blwyddyn Atodol).
Mae cyfleoedd cyflogaeth yn bodoli drwy'r sector Creadigol (Teledu a Ffilm) sy'n ehangu yn Ne Cymru.