Lefel 2 Gofal Plant, Chwarae, Dysgu a Datblygiad: Ymarfer a Theori – Llwybr Iaith Gymraeg

Mae’r cymhwyster hwn yn bennaf ar gyfer y rhai sy’n gweithio neu’n dymuno gweithio mewn lleoliadau gofal plant rheoledig gyda theuluoedd a phlant o dan 8 oed a/neu wasanaethau plant y GIG ar gyfer y rhai sy’n gweithio gyda theuluoedd a phlant 0–19 oed.


Os ydych chi’n siarad Cymraeg, rydyn ni’n eich annog yn gryf i ddewis ein Llwybr Iaith Gymraeg. Dyma gyfle gwych i ddatblygu eich sgiliau a magu hyder yn y Gymraeg wrth ennill cymhwyster cydnabyddedig. Byddwch yn defnyddio’r Gymraeg yn eich astudiaethau ac yn eich lleoliad gwaith, gan eich galluogi i gefnogi plant a theuluoedd yn ddwyieithog – sgil hynod werthfawr yn sector gofal plant Cymru.


Cewch eich gwahodd i gymryd rhan mewn gweithgareddau ymgyfarwyddo cyn y cwrs a bydd gofyn i chi fynychu lleoliad gwaith addas bob wythnos. Rhaid cwblhau gwiriad DBS a ffurflen addasrwydd ar gyfer lleoliad gwaith.

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Mae’r cymhwyster hwn yn caniatáu i ddysgwyr ddatblygu’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth a/neu ddilyniant gyrfaol ym maes gofal plant neu safleoedd iechyd. Mae’n cyfuno unedau ymarferol a gaiff eu hasesu o fewn y gweithle gyda gwybodaeth ddamcaniaethol ychwanegol.

 

Mae elfen ymarferol y cymhwyster hwn yn ddrych o gymhwyster Lefel 2 Gofal Plant, Dysgu a Datblygu: Ymarfer. Mae’r agwedd ddamcaniaethol yn cynnig gwybodaeth i ddysgwyr o faterion iechyd a llesiant plant ynghyd â dealltwriaeth eang o wasanaethau iechyd a gofal plant


Mae’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i gyflawni’r cymhwyster hwn yn adeiladu ar gynnwys cwrs Lefel 2 Gofal Chwarae, Dysg a Datblygiad Plant: Cymhwyster craidd. Y prif ffocws ydy datblygu’ch gwybodaeth a’ch profiad mewn lleoliad gofal plant tra’n dysgu’r theori yn y coleg. Datblygu’n holistaidd i wella a chadarnhau’ch sgiliau mewn amgylchedd ymarferol. Byddwch hefyd yn astudio TGAU Iaith Saesneg neu Mathemateg

Beth fydda i'n ei ddysgu?

3 TGAU gradd C neu uwch (yn cynnwys Mathemateg neu Rhifedd neu Cymraeg Mamiaith, ** Gofal Plant. Mae’r cwrs yn gofyn am wiriad DBS llwyddiannus.

Asesiad

Asesir eich sgiliau ymarferol yn eich lleoliad gwaith a byddwch yn cwblhau papur cwestiynau aml-ddewis ac arholiad yn y coleg

Dilyniant Gyrfa

Ar ôl cwblhau’r cwrs Diploma yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i gwrs Gofal Plant Lefel 3 neu gyflogaeth o fewn y sector gofal plant

Ymgeisiwch Nawr Gofyn am alwad yn ôl
Manylion y Cwrs
Lefel:Lefel 2
Modd:Llawn Amser
Dyddiad:01/09/2026
Lleoliad:Nantgarw
Cod y Cwrs:01F202NB
Ffioedd
Ffi Cofrestru Llawn Amser: £15

Sylwch: Mae ffioedd yn daladwy am bob blwyddyn astudio.

Beth mae Dysgwyr yn ei Ddweud

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

01685 887500

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

01443 662800

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

01443 663202

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

01443 816888
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Porth Dysgwyr a Staff Ap Coleg y Cymoedd Newyddion ADY Gyrfaoedd