Byd Ar-lein, Systemau Technoleg, Portffolio Digidol, Creu Graffeg Ddigidol, Datblygu Cronfeydd Data, Datblygu Meddalwedd, Gosod a Chynnal Caledwedd Cyfrifiadurol a Datblygu Cynhyrchion Amlgyfrwng.
4 TGAU gradd D neu’n uwch (gan gynnwys Mathemateg a Saesneg Iaith neu Cymraeg Iaith Gyntaf Iaith gyntaf), neu gymwysterau lefel 1 cyfwerth
Yn cynnwys dau brawf allanol – Byd Ar-lein a Systemau Technoleg yn ogystal ag ystod o asesiadau a osodir yn fewnol gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau ysgrifenedig a llafar. Drwy gydol y flwyddyn byddwch yn creu Portffolio Digidol i arddangos y gwaith a'r sgiliau a ddatblygwyd yn ystod y cwrs.
Mae ein dysgwyr blaenorol wedi symud ymlaen i'r cwrs L3 mewn Cyfrifiadureg, Cyfryngau Creadigol, Peirianneg a Busnes. Mae'r cwrs hwn hefyd yn paratoi dysgwyr ar gyfer y gweithle maes o law.













