Mae'r cwrs hwn ar gael mewn lleoliadau eraill:

Diploma Lefel 2 mewn Cynhyrchu a Thechnoleg y Cyfryngau Creadigol

Gyda fwyfwy o gyfleoedd ar gyfer cyflogaeth yn y Sector Creadigol yng Nghymru, bu cynnydd yn y galw am ddysgwyr â sgiliau technegol penodol i ddiwallu anghenion cyflogwyr a diwydiant lleol. Bydd y cwrs hwn yn canolbwyntio ar wasanaethu'r anghenion hynny trwy ddatblygu'ch gwybodaeth a'ch sgiliau ym mhob maes o'r Cyfryngau a Thechnoleg Creadigol gan ddefnyddio Adobe Creative Cloud, gan gynnwys: ffotograffiaeth, ffilm, teledu, radio, dylunio gemau, cynhyrchu sain, dylunio gwefannau.

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau a gwybodaeth yn seiliedig ar arferion proffesiynol ar draws sbectrwm eang o gynhyrchu technegol ac unedau sy'n ymwneud â diwydiant, megis: cynhyrchu sain, cyfryngau rhyngweithiol, technegau cynhyrchu, cynhyrchu gweledol a phrosiect personol.


Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd angen 4 TGAU graddau A * - D yn cynnwys Saesneg/Cymraeg a Mathemateg neu Ddiploma Lefel 1 ar radd Teilyngdod mewn pwnc creadigol neu TG. Fe'ch gwahoddir i fynychu cyfweliad. Bydd gofyn ichi hefyd sefyll asesiad cychwynnol mewn llythrennedd a rhifedd er mwyn sefydlu unrhyw gymorth sydd ei angen.

Asesiad

Mae pob uned yn cael ei asesu yn ôl gofynion penodol y manylebau a ddosberthir gan y corff dyfarnu ac mae'n cynnwys cyfuniad o asesu ymarferol yn seiliedig ar brosiectau a chynllunio, ymchwil, gwerthuso a myfyrio ysgrifenedig. Mae prosiectau wedi'u cynllunio i ganolbwyntio ar ddatblygu sgiliau sy'n mynd i'r afael ag anghenion cyflogwyr a diwydiant sector creadigol lleol. Caiff yr holl unedau eu hasesu'n fewnol a'u safoni'n allanol er mwyn sicrhau bod Safonau Cenedlaethol yn cael eu bodloni.

Dilyniant Gyrfa

Gan adeiladu ar enw da Coleg y Cymoedd fel darparwr arbenigol o gyrsiau sy'n datblygu sgiliau diwydiannol unigryw y mae galw mawr amdanynt, bydd dysgwyr yn gweithio ar brosiectau sy'n gysylltiedig â’r diwydiant sy'n eu paratoi a'u hannog i dargedu cyfleoedd gyrfa a gynigir gan gyflogwyr y sector creadigol lleol, gan gynnwys: Pinewood Studios , S3 Advertising, Bad Wolf Studios a BBC Cymru. Bydd ehangu darpariaeth Cyfryngau Creadigol Coleg y Cymoedd yn gwella cyfleoedd dilyniant ymhellach o'n darpariaeth Lefel 1 i'n cyrsiau Lefel 3 Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol (Teledu a Ffilm) ac Addysg Uwch arbenigol, gan gynnwys ein Gradd Sylfaen mewn Celf a Dylunio Gemau sydd wedi'i rhyddfreinio drwy Brifysgol De Cymru.

Ymgeisiwch Nawr Gofyn am alwad yn ôl
Manylion y Cwrs
Lefel:Lefel 2
Modd:Llawn Amser
Dyddiad:02/09/2024
Lleoliad:Aberdâr
Cod y Cwrs:9AF217AA
Ffioedd
Ffi Cofrestru Llawn Amser: £15

Sylwch: Mae ffioedd yn daladwy am bob blwyddyn astudio.

Gyrfaoedd y Dyfodol
Beth allech chi ei ennill:
Fel Artistiaid:
Beth allech chi ei ennill:
Fel Gweithwyr proffesiynol amgylcheddol:
Beth allech chi ei ennill:
Fel Dylunwyr Graffig:
Beth allech chi ei ennill:
Fel Dylunwyr Cynnyrch, Dillad a Chysylltiedig:
Beth allech chi ei ennill:
Fel Tecstiliau, dillad a chrefftau cysylltiedig n.e.c.:
Beth allech chi ei ennill:
Fel Technegwyr cyn-argraffu:
Beth allech chi ei ennill:
Fel Argraffwyr:
Beth allech chi ei ennill:
Fel Gweithwyr gorffennu printio a rhwymo:
Beth allech chi ei ennill:
Fel Pobyddion a theisenwyr blawd:
Beth allech chi ei ennill:
Fel Crefftau medrus eraill n.e.c.:
Oriel y Cyfryngau
Beth mae Dysgwyr yn ei Ddweud
Select Location
Choose Location

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau