Diploma Lefel 2 mewn Cynhyrchu yn y Cyfrygnau Creadigol a Thechnoleg (y Cyfryngau Digidol)

Gyda chynnydd yn y cyfleoedd ar gyfer cyflogaeth yn y Sector Creadigol yn Nghymru, bu cynnydd yn y galw am ddysgwyr sy’n meddu ar sgiliau technegol i ddiwallu anghenion cyflogwyr lleol ac anghenion y diwydiant.


Bydd y cwrs hwn yn ffocysu ar ddiwallu’r anghenion hynny drwy ddatblygu’ch gwybodaeth a’ch sgiliau ym mhob maes o’r Cyfryngau Creadigol a Thechnoleg gan ddefnyddio Adobe Creative Cloud, yn cynnwys ffotograffiaeth, ffilm, teledu, radio, dylunio gemau, cynhyrchu sain, dylunio gwefan.

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Mae’r cwrs yn ffocysu ar ddatblygu sgiliau a gwybodaeth yn seiliedig ar arferion proffesiynol ar draws sbectrwm eang o gynyrchiadau technegol ac unedau perthnasol i’r diwydiant megis: cynhyrchu sain, cyfryngau rhyngweithiol, technegau cynhyrchu, cynhyrchu gweledol a phrosiect personol.




Beth fydda i'n ei ddysgu?

4 TGAU gradd D neu uwch (yn cynnwys Mathemateg a Saesneg neu Gymraeg Mamiaith) neu gymwysterau lefel 1 cyfatebol.

Asesiad

Asesir pob uned ar sail gofynion manylebau penodol y corff dyfarnu ac mae’n cynnwys cyfuniad o asesiad ymarferol, yn seiliedig ar brosiectau, a chynllunio, ymchwil, gwerthuso a myfyrio ysgrifenedig. Llunnir prosiectau i ffocysu ar ddatblygu sgiliau sy’n mynd i’r afael ag anghenion cyflogwyr y sector creadigol a’r diwydiant. Asesir pob uned yn fewnol a’i safoni’n allanol er mwyn sicrhau bod Safonau Cenedlaethol yn cael eu diwallu.

Dilyniant Gyrfa

Gan adeiladu ar enw rhagorol Coleg Cymoedd fel darparwr arbenigol o gyrsiau sy’n datblygu sgiliau unigryw, mwyaf cyfredol y diwydiant, bydd dysgwyr yn gweithio ar brosiectau perthnasol i’r diwydiant sy’n eu paratoi a’u hannog i dargedu cyfleoedd gyrfaol a gynigir gan gyflogwyr y sector creadigol, yn cynnwys stiwdios Pinewood, stiwdios Bad Wolf a BBC Cymru/Wales. Bydd ehangu darpariaeth y Cyfryngau Creadigol yng Ngholeg y Cymoedd yn gwella’r dilyniant o Lefel 1 i’n cyrsiau arbenigol Lefel 3 Cynhyrchu Creadigol yn y Cyfryngau (Teledu a Ffilm) a chyrsiau Addysg Uwch, yn cynnwys ein Gradd Sylfaen mewn Celf a Dylunio Gemau a ryddfreiniwyd drwy Brifysgol De Cymru.

Ymgeisiwch Nawr Gofyn am alwad yn ôl
Manylion y Cwrs
Lefel:Lefel 2
Modd:Llawn Amser
Dyddiad:01/09/2026
Lleoliad:Aberdâr
Cod y Cwrs:9AF206AA
Ffioedd
Ffi Cofrestru Llawn Amser: £15

Sylwch: Mae ffioedd yn daladwy am bob blwyddyn astudio.

Beth mae Dysgwyr yn ei Ddweud

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

01685 887500

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

01443 662800

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

01443 663202

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

01443 816888
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Porth Dysgwyr a Staff Ap Coleg y Cymoedd Newyddion ADY Gyrfaoedd