Byddwch yn astudio pum uned a fydd yn trafod:
• Anatomeg, ffisioleg a maeth a sut maent yn berthnasol i ymarfer corff a ffitrwydd. • Iechyd a diogelwch yn yr amgylchedd ffitrwydd. • Y sgiliau i gynnal sesiynau sefydlu ar gyfer cleientiaid a grwpiau mewn amgylchedd yn y gampfa a chefnogi ymarfer corff a ffordd iach o fyw. • Y sgiliau i gynllunio, cyfarwyddo a goruchwylio sesiynau ymarfer corff a gweithgarwch corfforol diogel ac effeithiol. • Proffesiynoldeb wrth hyfforddi ffitrwydd. • Datblygiad personol a phroffesiynol. • Darparu gwasanaeth cwsmeriaid eithriadol.
Argymhellir yn fawr meddu ar rywfaint o brofiad o ymarferion yn y gampfa, gan gynnwys pwysau rhydd. Mae'r cwrs yn gofyn am ymdrech gorfforol, ac mae cymryd rhan yn hanfodol; felly, mae angen rhywfaint o ffitrwydd corfforol.
Mae elfen o gyfathrebu (trafod, cyflwyno, darllen ac ysgrifennu) dan sylw a dylai dysgwyr feddu ar sgiliau cyfathrebu sylfaenol ar lefel 2. Fe'ch gwahoddir i fynychu cyfweliad anffurfiol lle gallwch gwrdd â thiwtoriaid y cwrs ar gyfer Holi ac Ateb.
• Gwaith cwrs/Prosiect. • Arholiad Aml-ddewis. • Portffolio o dystiolaeth. • Arddangosiadau Ymarferol
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, efallai y byddwch am symud ymlaen i'n Diploma Lefel 3 mewn Hyfforddiant Personol. Fel arall, gallech chwilio am waith fel Hyfforddwr yn y Gampfa. Mae'r cwrs yn cael ei gydnabod a'i ardystio'n genedlaethol gan y corff dyfarnu Active IQ.