Byddwch yn astudio unedau a fydd yn adlewyrchu anghenion y proffesiwn Trin Gwallt tra’n eich paratoi ymhellach ar gyfer gyrfa o fewn y sector hwn a byddwch yn astudio agweddau o drin gwallt i’ch galluogi i weithio fel steilist gwallt gan gynnwys: Dilyn arferion iechyd a diogelwch yn y salon; rhoi shampw a chyflyrydd ar y gwallt a'r pen; celfyddyd trin gwallt; ymgynghori â'r cleient am y gwasanaethau gwallt; celfyddyd lliwio gwallt, gweithio yn y diwydiant trin gwallt.
Mae’r cwrs yn cynnwys gwersi theori ac ymarferol ar Drin Gwallt gyda llawer o gyfleoedd i weithio mewn amgylchedd salon masnachol.
Er nad oes unrhyw gymwysterau rhagofynnol ffurfiol, mae'r cwrs hwn wedi'i anelu at y rhai sydd â phrofiad diwydiant neu gymwysterau lefel 1 yn y sector hwn. Bydd gofyn i chi fynychu cyfweliad.
Rydyn ni'n chwilio am ddysgwyr â diddordeb brwd yn y diwydiant Trin Gwallt. Cewch eich gwahodd i gymryd rhan mewn gweithgareddau canllawiau cyn cychwyn y cwrs a fydd yn cynnwys cyflwyniad i'r cwrs. Bydd angen iwnifform a chyfarpar perthnasol ar gyfer y c
Defnyddir ystod o ddulliau i’ch asesu, sy’n cynnwys asesu parhaus drwy arsylwi’ch gwaith ymarferol, cwblhau portffolio, tystiolaeth theori a gwaith aseiniad. Bydd arholiadau allanol hefyd.
Ar ôl cwblhau’r rhaglen hon yn llwyddiannus, rydyn ni'n argymell y dylech chi fynd ymlaen i wneud rhaglen Diploma Lefel 2 Trin Gwallt ac yna o bosibl i raglen Diploma Lefel 3 Trin Gwallt er mwyn i chi gyflawni’ch potensial llawn ar gyfer gofynion proffesiynol y diwydiant a thrwy hynny gael cyfle i dilyn un o'r gyrfaoedd hyn; Artist Lliwio; Steilio Gwallt i'r Cyfryngau, Steilist Gwallt ar Fordeithiau, Perchennog Salon, Darlithydd a Hyfforddwr/Asesydd.
Salon Uniform, course equipment kit and salon fees are required for this course. Estimated costs, details for ordering/payment and potential application for financial support/assistance will be discussed on interview, and confirmed following receipt of supplier quotes.










