Bydd y cymhwyster yn rhoi cyflwyniad trylwyr i'r egwyddorion, y gwerthoedd a'r wybodaeth sydd eu hangen i weithio yn y sectorau gofal iechyd a gofal cymdeithasol gydag oedolion a phlant a phobl ifanc. Mae’r cynnwys ar gyfer y cymhwyster hwn yn cefnogi dysgwyr i ddatblygu eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o’r canlynol:
• yr egwyddorion a'r gwerthoedd craidd sy'n sail i ymarfer iechyd a gofal cymdeithasol • ffyrdd o weithio yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol • arferion effeithiol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol • llwybrau dilyniant ar gyfer astudiaethau neu gyflogaeth bellach ym maes diogelu Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
3 TGAU gradd C neu'n uwch gan gynnwys Mathemateg/Rhifedd neu Saesneg/Cymraeg. Gellir trafod cymwysterau cyfatebol amgen mewn cyfweliad.
Gwiriad DBS llwyddiannus a chais am y gwasanaeth diweddaru ar y gwiriad DBS. Bydd pob ymgeisydd yn cael ffurflen “Suitablity for Care” y mae'n rhaid ei llenwi.
Er mwyn cyflawni'r cymhwyster hwn, rhaid i ymgeiswyr basio: • pedwar asesiad sy'n seiliedig ar senarios wedi’u gosod yn allanol sy'n cael eu marcio yn y ganolfan a fydd yn cael eu cymryd drwy gydol y cymhwyster. • un prawf amlddewis wedi'i osod yn allanol, ac wedi'i farcio'n allanol
Ar ôl cwblhau'r cymhwyster a 4 TGAU Gradd C neu’n uwch yn llwyddiannus, i gynnwys Saesneg a Mathemateg, efallai y bydd modd i ddysgwyr symud ymlaen at gymhwyster Iechyd a Gofal Cymdeithasol L3. Dilyniant i gyflogaeth ym maes gofal cartref neu breswyl.
Learners attending Care and Childcare courses need to purchase a £ 11.00 polo shirt to wear at placement and to pay for a DBS check.